'Ai fi ydy'r unig un sy'n cofio clywed Lloyd George yn areithio?'

Lloyd George yn areithio Image copyright Getty Images
Image caption Lloyd George yn areithio tua 1927

Bu farw David Lloyd George, yr unig Gymro, a'r Rhyddfrydwr olaf, i fod yn Brif Weinidog y DU, ar Fawrth 26, 1945.

Dros 70 mlynedd yn ddiweddarach fedrwn ni ddim ond dyfalu beth fyddai ei farn am y tirlun gwleidyddol heddiw.

Un fu'n gwrando arno'n annerch yw John Williams o Lanfarian sy'n hel atgofion am gyfnod gwleidyddol gwahanol iawn ac sydd eisiau gwybod, ai fo yw'r olaf sy'n dal yn fyw i glywed areithio tanbaid Lloyd George?


"Fy enw i ydy John Williams. Mi rydw i'n gant oed a thri mis. Yr unig hawl sydd gyda fi i floeddio yw tybed ai fi ydy'r unig un yn fyw heddiw sydd yn cofio clywed David Lloyd George yn areithio.

"Doedd Lloyd George ddim yn byw yng Nghymru. Mi roedd yn aelod seneddol i'r Caernarvon Boroughs ac roedd hyn yn cynnwys tref glan môr Llandudno.

Image copyright Megan Williams
Image caption Mae John Williams dros ei 100 oed erbyn hyn

"Roedd yn byw gyda'i fistres mewn lle o'r enw Churt yn Sir Surrey [daeth Frances Stevenson yn wraig i Lloyd George ddwy flynedd cyn ei farwolaeth yn 1943].

"Ond unwaith y flwyddyn adeg yr elecsiwn cyffredinol roedd yn dod i fyny.

"Mi roeddwn yn digwydd bod yn aros mewn lodgings ym Mae Colwyn a digwyddodd gŵr y tŷ ddod ata' i a gofyn a hoffwn i fynd gydag ef ar y bws i Landudno, rhyw 15 milltir o'r tŷ, i glywed Lloyd George yn siarad. Roedd hyn tua mis Mehefin neu fis Gorffennaf 1935.

"Dyma ni yn teithio ar y bws o Fae Colwyn i Landudno ac mi roedd Theatr y Pafiliwn, sydd ddim yna nawr, ym mhen pellaf y promenâd yn ymyl y pier. Roedd y bws yn mynd â ni cyn belled ag roedd yn gallu cyn troi nôl.

"Mi roeddwn ni yn y cefn oherwydd fod yna gymaint o dorf ond mi gefais olwg da iawn o Lloyd George yn dod i'r llwyfan.

"Roedd y dorf yn rhoi croeso da iddo fo. Dwi ddim yn cofio llawer am yr araith ond dwi yn cofio'r llinell olaf: 'Os gwnewch chi fy ethol i unwaith eto fe fyddaf fel swmbwl yn y cnawd' a sylweddoli fod o wedi cymryd hwnna o'r Beibl. Un o Epistolau Paul.

Image copyright Megan Williams
Image caption John Williams yn 17 mlwydd oed, yr oedran y gwelodd Lloyd George

"Lloyd George Liberal oedd fy nhad oherwydd bod o yn ffarmwr yn Nyffryn Clwyd ac mi roedd Lloyd George wedi bod yn allweddol yn ymladd yr Eglwys Anglicanaidd pan roeddent yn ceisio casglu trethi'r degwm.

"Bedyddiwr oedd Lloyd George ond roedd o wedi bod ar ochr gweision y ffermydd pan ofynnon nhw am well telerau gwaith a byw.

Image copyright Megan Williams
Image caption Yr hen Theatr y Pafiliwn, Llandudno

"Tua'r un cyfnod dwi'n cofio mynd gyda fy ewythr, Edward Davies, i Borthmadog ac i fyny i Gaernarfon. Un o gefnogwyr cynnar Plaid Cymru oedd o, a'i waith oedd cymryd orders yn siopau Eifionydd a Gaernarfon am LifeBuoy Soap a the Mazawatee.

"Dwi'n cofio mynd gyda fo yn ei gar o Fodfari, Sir Ddinbych, ac yntau yn dweud 'Pam cawn ni ddim llywodraeth ein hunan yng Nghaerdydd?' ac mi roedd pobl yn meddwl fod y fath beth yn amhosib yng nghanol tridegau'r ganrif ddiwethaf.

"A dyma ni rŵan gyda rhyw fath o Gynulliad yn ein gwasanaethu.

"Cyfnod diddorol yn wleidyddol oedd y cyfnod cyn y rhyfel yng Nghymru. Roedd Rhyddfrydiaeth Lloyd George ar ei ffordd allan ond dyna fy claim to fame - fy mod i wedi clywed ei lais o yn teyrnasu dros y tonnau yn Llandudno yn 1935."

Hefyd o ddiddordeb: