Honiad bod Ceidwadwyr 'wedi gwneud sylwadau hiliol'

Melanie Owen
Image caption Doedd Melanie Owen ddim yn fodlon gydag ymateb y blaid i'w phryderon

Mae cyn-weithiwr gyda'r Blaid Geidwadol yn honni bod aelodau eraill o'r blaid wedi gwneud sylwadau hiliol iddi.

Ymunodd Melanie Owen â'r Ceidwadwyr yn 2014 ond fe ymddiswyddodd y llynedd dros yr hyn mae hi'n ei ystyried yn fethiant ar ran y blaid i ddelio â'r mater.

Mae Ms Owen yn honni bod rhywun wedi dweud wrthi fod ganddi ddwylo bach am fod ei chyndeidiau yn arfer casglu cotwm, a'i bod wedi cael ei gorfodi i gymryd rhan mewn trafodaeth ynghylch "buddion economaidd" honedig caethwasiaeth.

Dywedodd y blaid bod sylwadau o'r fath yn "hollol annerbyniol".

Dywedodd Ms Owen ei bod wedi mynegi pryderon wrth swyddogion y blaid ynghylch y mater, ond ei bod yn anfodlon gyda'r ffordd y cafodd ei drin.

Roedd hi'n gweithio i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns tan y llynedd, ac yn ymddangos yn rheolaidd ar y radio a'r teledu fel llefarydd ar ran y Ceidwadwyr a'r ymgyrch Vote Leave yn ystod refferendwm Brexit yn 2016.

'Mae'n hurt'

"Mae angen i'r Blaid Geidwadol benderfynu os yw eisiau i unigolion sy'n dweud y math yma o bethau i'w chynrychioli, hyd yn oed os mae ond ar lefel llawr gwlad," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.

"'Sa i'n teimlo bod y blaid yn gwneud digon i fynd i'r afael â hyn. Os taw dyna'r math o aelod [mae'r blaid] eisiau i'w chynrychioli... mae'n hurt."

Image copyright BBC Sport
Image caption Fe wnaeth Melanie Owen gynrychioli ymgyrch Vote Leave yn ystod refferendwm Brexit 2016

Dywed Ms Owen - ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus sy'n byw yng Ngheredigion - ei bod yn nabod pobl eraill sydd hefyd wedi gadael y blaid oherwydd profiadau tebyg.

"Rwy'n cofio un jôc yn cael ei wneud bod gen i ddwylo bach oherwydd roedd fy nghyndeidiau eu hangen i gasglu cotwm," meddai.

"Dylwn ni fod wedi dweud rhywbeth, ond pan y'ch chi mewn stafell llawn pobl sy'n meddwl bod e'n ddoniol dros ben, mae'n anodd iawn."

Dywedodd Ms Owen ei bod wedi cael ei "gwneud i deimlo'n eitha' anghyfforddus yn cael fy ngorfodi i drafod buddiannau economaidd caethwasiaeth - nad oedd, ro'n i'n teimlo, yn rhywbeth y dylwn ni wedi gorfod goddef".

'Cam yn ôl'

Tra'n cyfeirio at nifer fach o unigolion, dywed Ms Owen iddi deimlo bod yna awyrgylch "bod hyn yn rhywbeth derbyniol i'w ddweud" a'i fod wedi dod yn "eithaf toreithiog".

Credai Ms Owen fod y blaid yn fwy rhyddfrydig nag yn 2014 ond bod yna "ychydig bach o elyniaeth" erbyn hyn tuag at bobl o gefndir ethnig lleiafrifol.

"Rwy'n meddwl bod yna gam yn ôl," meddai, ac yn enwedig "ymhlith aelodau ieuenctid".

"Mae gofyn iddyn nhw benderfynu a yw hiliaeth yn rhywbeth y mae angen iddyn nhw ei gymryd o ddifrif. Os felly, mae'n rhaid iddyn nhw wneud gwell job o alw unigolion i gyfrif.

"Fel arall, maen nhw'n mynd i golli aelodau allai fod yn gwneud llawer o ddaioni, nid ei gorfodi i fynd yn ôl i blaid fel ag yr oedd yn y 50au a'r 60au efallai."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: "Mae anffafriaeth neu gamdriniaeth o unrhyw fath yn anghywir ac ni fydd yn cael ei oddef, ac mae'r math yma o sylwadau yn hollol annerbyniol.

"Pan mae achosion yn cael eu cyflwyno i'r broses gwynion, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal a chamau'n cael eu cymryd pan fo angen."

Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 17 Mawrth, 1100.

Straeon perthnasol