Rhybudd melyn am rew yn y canolbarth a'r gogledd

Rhybudd melyn Image copyright Y Swyddfa Dywydd
Image caption Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 21:00 nos Sadwrn a 09:30 fore Sul

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew mewn rhannau helaeth o'r gogledd a'r canolbarth.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 21:00 nos Sadwrn a 09:30 fore Sul.

Mae'r rhagolygon yn rhybuddio y gallai rhai ffyrdd, palmentydd a llwybrau gael eu heffeithio.

Gall eira neu genllysg ddisgyn ar dir uchel yn ogystal.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol