Apêl wedi gwrthdrawiad difrifol ar yr A496 ger Harlech

A496 Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A496 ger Harlech am tua 22:00 nos Sadwrn.

Cafodd dyn lleol 29 oed ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag "anafiadau all newid ei fywyd" ar ôl cael ei daro gan gerbyd.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig