Ffordd yr A44 ar gau i'r ddau gyfeiriad

ponterwyd

Mae ffordd yr A44 yng Ngheredigion ar gau rhwng Ponterwyd ac Eisteddfa Gurig wedi gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd nos Sul.

Toc wedi naw o'r gloch roedd Heddlu Dyfed Powys yn stopio gyrwyr i'r ddau gyfeiriad.

Mae ambiwlans a gwasanaeth symud cerbydau wedi'u galw.