Gwahardd Craig Bellamy am yfed a gyrru

Craig Bellamy'n gadael y llys Image copyright John Cooper
Image caption Plediodd Craig Bellamy'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru yn Llys Ynadon Caerdydd

Mae'r cyn-beldroediwr Cymru Craig Bellamy wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 18 mis wedi iddo gyfadde' yfed a gyrru.

Plediodd Bellamy'n euog i un cyhuddiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.

Pan gafodd ei ddal, dangosodd prawf anadl fod lefel yr alcohol yn ei gorff bron i ddwbl y lefel cyfreithlon.

Roedd ganddo 67 meicrogram o alcohol am bob 100 ml o'i anadl - y lefel cyfreithlon i yrru yw 35 µg/ml.

Cafodd ddirwy o £650 yn ogystal â gwaharddiad, ond mae modd iddo leihau'r gwaharddiad os fydd yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth cyflymder cyn 25 Mawrth 2020.

Pynciau Cysylltiedig