Teulu Carl Sargeant yn ennill her yn erbyn ymchwiliad

Carl Sargeant Image copyright Cyngor Rhondda Cynon Taf
Image caption Bu farw Carl Sargeant bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r llywodraeth

Mae teulu'r cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant wedi ennill her yn yr Uchel Lys ynglŷn â chyfreithlondeb yr ymchwiliad i amgylchiadau ei ddiswyddiad.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones, ddiswyddo Mr Sargeant ym mis Tachwedd 2017 yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol.

Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau, oedd yn gwadu'r honiadau, ei ganfod yn farw yn ei gartref ychydig ddyddiau wedi hynny.

Roedd teulu Mr Sargeant eisiau i'w cyfreithwyr nhw allu croesholi tystion fel rhan o'r ymchwiliad.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "siomedig" gyda dyfarniad y llys, ond ei fod wedi gwneud ei benderfyniadau i warchod eraill.

Mae'r AC Alun Davies yn galw ar y Cynulliad i gymryd gofal o'r ymchwiliad annibynnol os na fydd y problemau gafodd eu codi gan yr Uchel Lys yn cael eu datrys yn gyflym.

Mae disgwyl i'r cwest i'w farwolaeth ailagor ym mis Gorffennaf.

'Barnwr yn ei lys ei hun'

Wedi ei farwolaeth fe wnaeth teulu Mr Sargeant fynegi eu siom nad oedd wedi cael gwybod natur yr honiadau yn ei erbyn.

Yn dilyn pwysau gan y teulu a gwleidyddion eraill, fe wnaeth Mr Jones sefydlu'r ymchwiliad i ganolbwyntio ar y modd y cafodd y diswyddiad ei drin.

Yn ôl cyfreithwyr y teulu roedd Mr Jones yn ymddwyn fel "barnwr yn ei lys ei hun", gan osod rheolau'r ymchwiliad i'w ymdriniaeth ei hun o ddiswyddiad Mr Sargeant.

Image copyright Andy Kelvin/PA Wire
Image caption Roedd mab Carl Sargeant, Jack, a'i wraig Bernadette yn bresennol trwy gydol ei gwest

Yn eu dyfarniad ddydd Mercher dywedodd yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave a Mr Ustus Swift fod Mr Jones wedi mynd yn groes i'w ddatganiad ei hun wrth wneud penderfyniadau am sut fyddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Doedd hynny, ym marn y ddau farnwr, ddim yn rhesymol o ystyried amgylchiadau'r achos.

'Ateb rhai pryderon'

Dywedodd llefarydd ar ran cyfreithwyr y teulu: "Doedd gan y teulu Sargeant ddim ymwybyddiaeth o weithredoedd y prif weinidog, er ei addewid y byddai'n ymchwiliad annibynnol.

"Mae hi'n siomedig iawn eu bod wedi gorfod mynd â'r mater i'r Uchel Lys i amlygu geiriau gwag y cyn-brif weinidog.

"Mae'r penderfyniad heddiw yn ateb rhai o'r pryderon roedd gan y teulu am annibyniaeth yr ymchwiliad."

Ychwanegodd eu bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a chadeirydd yr ymchwiliad yn trafod â'r teulu cyn ailddechrau unrhyw ymchwiliad.

Image caption Rhoddodd Carwyn Jones dystiolaeth i gwest Carl Sargeant yn Rhuthun

Ymatebodd Mr Jones i'r dyfarniad mewn datganiad: "Yn amlwg mae'r broses yn anodd i'r teulu, ac rwy'n gobeithio bod modd canfod y ffordd gywir ymlaen yn fuan.

"Tra 'mod i'n siomedig gyda phenderfyniad y llys ar y broses, rwy'n sylwi nad ydyn nhw'n dweud unrhyw beth fod y penderfyniad [gen i] yn anghywir.

"Fe gymrais i'r camau y gwnes i er mwyn gwarchod yr achwynwyr. O weld yr ymgyrch o gasineb y mae nifer o fenywod wedi'i wynebu o ganlyniad i'r digwyddiadau yma, rwy'n ymddiheuro dim am hynny."

Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r llys am roi eglurder ar broses sydd wedi bod yn un cymhleth.

"Byddwn nawr yn ystyried y camau nesaf yng ngoleuni dyfarniad heddiw."

Trosglwyddo'r ymchwiliad i'r Cynulliad?

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Alun Davies, a fu'n aelod o gabinet Mr Jones pan fu farw Mr Sargeant, dylai'r Cynulliad gymryd gofal o'r ymchwiliad eu hunain, os na fydd y pryderon yr Uchel Lys yn cael eu datrys yn fuan.

"Mae hi wedi cymryd llawer yn rhy hir i gyrraedd datrysiad i'r mater, a chredaf erbyn hyn bod angen i ni sicrhau bod y teulu yn cael y wybodaeth maent ei eisiau a'r datrysiad maent eu hangen," meddai.

"Ym mha bynnag ran o'r siambr rydym yn eistedd a pha bynnag rôl sydd gennym yn y llywodraeth ac fel aelodau, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gyflwyno'r gwir am be ddigwyddodd yn agored."

Ychwanegodd Mr Davies: "O ystyried y dyfarniad heddiw, mae hi'n amser i'r llywodraeth i naill ai gymryd cyfrifoldeb am ddatrys hyn a gwneud hynny ar frys neu mae'n amser i'r lle yma [y Cynulliad] wneud hynny ar ran y llywodraeth."

Straeon perthnasol