Y Bencampwriaeth: Nottingham Forest 2-1 Abertawe

Daniel James Image copyright Getty Images
Image caption Yr asgellwr ifanc Daniel James oedd y seren unwaith eto i'r Elyrch

Fe wnaeth tymor cymysg Abertawe yn y Bencampwriaeth barhau ddydd Sadwrn, gan golli er iddyn nhw fod ar y blaen yn Nottingham Forest.

Seren newydd Cymru, Daniel James oedd chwaraewr gorau'r hanner cyntaf, ond er ei ymdrechion roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Abertawe lwyddodd i gael y gôl gyntaf, a hynny wedi i Connor Roberts wyro ergyd George Byers i'r rhwyd gyda chwarter awr yn weddill.

Ond roedd Nottingham Forest yn gyfartal ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Daryl Murphy yn sgorio i'r tîm cartref.

Fe lwyddodd Forest i droi'r gêm ar ei phen yn y munudau olaf, gyda Molla Wague yn penio i'r rhwyd i'w rhoi ar y blaen am y tro cyntaf.