Adran Dau: Yeovil 1-3 Casnewydd

Robbie Willmott Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Robbie Willmott sgoriodd gol gynta'r gêm ar ôl 62 munud

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd y gemau ail-gyfle yn Adran Dau yn parhau wedi iddyn nhw drechu Yeovil oddi cartref brynhawn Sadwrn.

Bu'n rhaid disgwyl 62 munud am gôl gynta'r gêm, gyda Robbie Willmott yn rhwydo gyda pheniad i roi'r ymwelwyr ar y blaen.

Ychwanegodd Casnewydd ail gôl ychydig funudau'n ddiweddarach wrth i Ben Kennedy sgorio gydag ergyd o bellter.

Fe wnaeth y Cymro Tom James daro 'nôl i Yeovil, cyn i Keanu Marsh-Brown sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda gôl hwyr.

Mae'r canlyniad yn gweld Casnewydd yn codi i 11eg yn y gynghrair, chwe phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle a gydag un gêm ychwanegol yn weddill.