Pam fod pobl ifanc yn gadael y Fro Gymraeg?

Plant ym Mlaenau Ffestiniog Image copyright Matthew Ashton - AMA
Image caption Rydyn ni'n colli "pobl ifanc addysgiedig" o fröydd Cymraeg fel Blaenau Ffestiniog (uchod) a Thregaron am nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi integreiddio i'w cymuned, meddai Dr Wynn.

Rydyn ni wedi arfer meddwl mai diffyg gwaith yw prif reswm pobl ifanc o ardaloedd Cymraeg dros adael eu bro, ond yn ôl gwaith ymchwil mae'r teimlad o beidio perthyn i gymuned yn ffactor cryfach.

Os yw Llywodraeth Cymru am gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, mae Dr Lowri Cunnington Wynn o Brifysgol Aberystwyth yn dweud fod angen iddi ddeall pam fod rhai pobl ifanc yn teimlo nad ydyn nhw'n perthyn i ddiwylliant y Fro Gymraeg, er eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Holodd Dr Wynn sampl o bobl ifanc o deuluoedd sydd wedi mewnfudo ar gyfer ei hastudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r bröydd Cymraeg.

Image copyright Lowri Cunnington Wynn
Image caption Mae Dr Lowri Cunnington Wynn yn ddarlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Fe wnaeth ddarganfod mai pa mor dda maen nhw wedi integreiddio yn eu cymuned yw'r dylanwad cryfaf ar eu penderfyniad i ddod nôl i'w bröydd ai peidio ar ôl gadael i gael addysg uwch.

"Wrth gwrs mae 'na resymau economaidd dros pam bod nhw'n mynd," meddai Dr Wynn wrth drafod ei hymchwil ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.

"Ond mae 'na resymau mwy hefyd - ffactorau'n ymwneud â'r ymdeimlad o berthyn a phethau fel diwylliant a chenedligrwydd ac ystyriaethau yn ymwneud â'r Gymraeg hefyd.

"Mae'r economi yn bwysig ac roeddan ni'n gweld bod yna ystyriaeth i'r economi bod y bobl ifanc yn gadael i fynd i'r brifysgol neu'n chwilio am waith, ond bod eu rhesymau nhw dros ddod yn ôl hefyd yn bwysig.

"Mae rhai yn dod yn ôl am eu bod yn teimlo eu bod nhw'n perthyn i'r gymuned hwnnw a rhai yn dewis peidio oherwydd bod nhw ddim yn teimlo eu bod nhw wedi integreiddio'n llawn i'r gymdeithas hwnnw.

"Os ydyn nhw'n symud tu hwnt i'r ffin maen nhw'n colli'r iaith a 'da ni hefyd wedyn yn eu colli nhw fel poblogaeth ifanc addysgiedig."

Siarad Cymraeg

Bu Dr Wynn yn siarad gyda sampl o bobl ifanc 15-18 oed a 19-25 oed o Dregaron a Blaenau Ffestiniog sydd naill ai wedi mewnfudo i'r ardaloedd neu sy'n blant i rieni a fewnfudodd, ac sydd wedi dysgu'r iaith.

Ond dydi siarad y Gymraeg ddim yn "basport" i berthyn i'r gymuned Gymraeg chwaith, nac o anghenrhaid yn gwneud pobl yn fwy tebyg o aros yn eu bro, meddai Dr Wynn.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hyn meddai Dr Wynn os ydy hi am wireddu'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Effaith mudo ar y Gymraeg

Yn y Cyfrifiad diwethaf dangoswyd bod dirywiad wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith, neu'r Fro Gymraeg.

Y diffiniad o'r Fro Gymraeg yw ardal lle mae o leiaf 50% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Mae parhad y Gymraeg yn y ardaloedd yma wedi bod dan fygythiad oherwydd patrymau mudo, gyda phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg wedi gadael eu cymunedau i geisio gwaith a phobl nad ydynt yn medru'r Gymraeg yn mewnfudo, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Image copyright keith morris
Image caption Mae gan Tregaron niferoedd o siaradwyr Cymraeg tebyg i Flaenau Ffestiniog

Pan mae'r mewnfudwyr hyn yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu derbyn i'r gymdeithas, mae yna wrthgyferbyniad rhwng eu hunaniaeth fel pobl sy'n byw yng Nghymru ond sy'n teimlo nad ydyn nhw'n 'Gymry' o ran eu cenedligrwydd.

Mae'n dyfynnu 'Paul' o Dregaron, sy'n dweud: "How can I be Welsh? My mother isn't Welsh, my father isn't Welsh, so I certainly aren't [sic]. Nor do I want to be.

"Don't get me wrong, I love Wales, it's my home, and I think it's great that I can speak two languages, but speaking a language doesn't make you Welsh... I'm proud to be an English person living in Wales..."

Gwahaniaeth agwedd rhwng y ddwy ardal

Os yw'r iaith i oroesi, mae Dr Wynn yn rybuddio bod rhaid i ddiwylliant Cymraeg fod yn un amrywiol ac aml-ochrog, nid un sydd wedi ei chyfyngu i'r Eisteddfod, y capel, neu'r ysgol - neu i fyd amaeth.

Fe wnaeth ddarganfod fod gwahaniaeth rhwng y ddwy ardal o ran agweddau'r bobl ifanc tuag at iaith, diwylliant a chenedligrwydd.

Image copyright keith morris
Image caption Yn draddodiadol, mae Tregaron yn ardal amaethyddol

Ym Mlaenau Ffestiniog, cyn ardal ddiwydiannol sydd wedi gweld llawer o fynd a dod, roedd yr agwedd at 'fod yn Gymraeg' yn un cadarnhaol.

A rhai o'r bobl ifanc, er nad pawb, yn teimlo hunaniaeth genedlaethol wahanol i'w rhieni.

Ond yn Nhregaron roedd y berthynas rhwng cenedligrwydd ac ardal yn un negyddol a Chymreictod yn cael ei gysylltu gyda'r byd amaeth ac yn rhywbeth "nad oedd yr ymfudwyr yn yr achos hwn yn gallu uniaethu ag o", meddai Dr Wynn.

"O ganlyniad, roedd bod yn Gymro/Cymraes yn nodwedd negyddol i'r rhai nad oedd yn teimlo'n gynwysedig i'r ardal a'i ddiwylliant," meddai Dr Wynn yn ei hastudiaeth.

Roedd cysylltiad yn aml rhwng agweddau rhieni ac agweddau'r bobl ifanc.

Dywedodd 'Morgan': "The thing is, I just wouldn't want to be like them you know. They're all farmers, and I guess I'm just not like that.

"They have their own language and stuff, like 'shwmai bachan', and I just think, 'god, I so don't want to be like that. I'm sorry but why would you. I remember my dad saying the same thing..."

Mae Dr Wynn hefyd yn cyfeirio at y tensiwn sy'n cael ei greu gan rannu dosbarthiadau yn yr ysgol i ddwy ffrwd, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

Yn ôl 'Amber' o Dregaron roedd hi'n teimlo'r awydd i rebelio yn erbyn cael ei "gwthio" i siarad yr iaith yn yr ysgol.

Mae'n rhaid i Llywodraeth Cymru fynd ati i geisio deall dyheadau'r grŵp yma o bobl ifanc a'u rhieni mewn mwy o fanylder, meddai Dr Wynn, gan ddadlau "bod angen polisïau lleol a chenedlaethol sy'n ymateb i'r tensiwn sy'n bodoli rhwng aros yng Nghymru neu fudo o'r wlad a cholli iaith."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig