Arweinydd Cyngor Sir y Fflint yn diswyddo ei ddirprwy

Aaron Shotton
Image caption Nid yw'r cyngor wedi dweud pam bod Aaron Shotton wedi diswyddo ei ddirprwy

Mae Arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi diswyddo ei ddirprwy.

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge, sy'n cynrychioli Canol Cei Connah, yn ddirprwy arweinydd y cyngor ac yn aelod cabinet dros dai.

Cadarnhaodd y cyngor ei fod wedi ei ddiswyddo gan ei gyd-gynghorydd Llafur, Aaron Shotton.

Nid oedd y cyngor am ddweud pam bod y Cynghorydd Attridge wedi ei ddiswyddo.

Ond mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Mae'r cyngor wedi cadarnhau, yn dilyn cais, bod Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, yn diswyddo'r Cynghorydd Attridge o'i swyddi fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac aelod cabinet."

Ar Twitter, dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod "mewn sioc ac yn drist" o fod wedi ei ddiswyddo.

Pynciau Cysylltiedig