Pryder am ddyfodol morglawdd hanesyddol yng Nghaergybi

morglawdd Image copyright Cyngor Sir Ynys Môn

Mae ymgynghoriad wedi dechrau wedi iddi ddod i'r amlwg y gallai morglawdd hiraf Prydain chwalu os na fydd gwaith yn cael ei gynnal arno.

Mae'r strwythur rhestredig Gradd II yn gwarchod porthladd Caergybi ers iddo agor yn 1873.

Pan gafodd ei agor roedd yn cael ei ystyried fel campwaith peirianyddol yr oes.

Ers blynyddoedd mae'r perchnogion, Stena Line Ports, wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd, gydag amcangyfrif yn 2013 yn dweud fod hynny'n costio £150,000 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Ond yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, mae'r pentwr rwbel y tu allan i'r morglawdd yn cael ei erydu gan donnau cyson, ac mae hynny'n golygu bod effaith y tonnau yn drymach ar y morglawdd ei hun.

O ganlyniad, mae arbenigwyr nawr yn rhybuddio y gallai'r morglawdd ei hun gael ei ddryllio o fewn 15 mlynedd.

'Strwythur hanesyddol bwysig'

Er mwyn cefnogi achos busnes i gael cyllid ar gyfer y gwaith mawr sydd bellach yn angenrheidiol, bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Gwener er mwyn darparu mwy o wybodaeth ar y dewisiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod bod angen "datrysiad tymor hir cost-effeithlon" er mwyn parhau i warchod Caergybi.

Image copyright Cyngor Sir Ynys Môn

Yn 2017 fe wnaeth Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Stena Line Ports, baratoi achos busnes amlinellol i ddatblygu dewisiadau ar gyfer adnewyddu'r morglawdd.

Roedden nhw'n amrywio o wneud dim - fyddai'n arwain at fethiant y morglawdd - i gryfhau'r strwythur presennol, adeiladu morglawdd arall ymhell o'r lan neu ychwanegu at y pentwr rwbel.

Bydd y drysau'n agor ar gyfer yr ymgynghoriad rhwng 15:00 a 19:00 yn Neuadd y Dref Caergybi ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran Stena Line: "Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn rheoli prosiect adnewyddu Morglawdd Caergybi ac rydym yn cydweithio'n llawn gyda chynrychiolwyr y cyngor ynghyd â thalu am waith ymgynghorwyr i wneud yn siŵr fod popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol y strwythur hanesyddol bwysig yma."

Pynciau Cysylltiedig