Brexit 'mewn perygl o droi'n drasiedi cenedlaethol'

May
Image caption Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May yn siarad ddydd Gwener

Mae Brexit mewn perygl o droi'n "drasiedi cenedlaethol", yn ôl Prif Weinidog Cymru, wedi i Fesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd gael ei drechu yn Nhŷ'r Cyffredin am y trydydd tro.

Roedd maint y golled yn agosach na'r ddwy bleidlais flaenorol - 286 o blaid a 344 yn erbyn - mwyafrif o 58.

Pleidleisio ar y cytundeb yn unig oedd yr aelodau - yn hytrach na'r mesur cyfan oedd yn cynnwys y datganiad gwleidyddol - ac felly fe fyddai angen pleidlais arall ar y mesur cyflawn.

Mae'r golled yn golygu y bydd dyddiad gadael yr UE yn digwydd ar 12 Ebrill fel mae pethau'n sefyll, a hynny heb gytundeb.

Pe byddai'r llywodraeth wedi ennill y bleidlais, fe fyddai'r dyddiad hwnnw wedi ei ymestyn hyd 22 Mai.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn rhoi'r bai am y cyfan ar ysgwyddau Theresa May am y "ffars... sydd mewn perygl o droi'n drasiedi genedlaethol".

Ychwanegodd: "Rhaid i ASau roi'r wlad yn gyntaf a dod o hyd i gyfaddawd a all sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Os bydd hyn yn methu, yr unig ffordd ymlaen yw rhoi'r penderfyniad yn ôl yn nwylo'r bobl drwy bleidlais gyhoeddus."

Mae disgwyl i'r llywodraeth gyhoeddi beth fydd y camau nesaf yn y broses maes o law, ond mae'r golled yma yn golygu nad yw'r sefyllfa ddim cliriach.

Wrth i gyhoeddiad y bleidlais gael ei gyhoeddi fe wnaeth Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, drydar ei fod wedi galw cyfarfod o'r Cyngor ar 10 Ebrill - dau ddiwrnod cyn y dyddiad ymadael newydd.

Cyn hynny mae disgwyl diwrnod arall o bleidleisiau yn San Steffan ddydd Llun lle bydd cyfle i aelodau gynnig trefniadau amgen allai arwain at gytundeb yn y senedd.

Dyma'r broses ddigwyddodd ddydd Mercher, ond yr adeg hynny ni chafodd yr un o'r cynigion fwyafrif ymysg ASau.

Newid meddyliau

Yn ystod y ddadl fore Gwener, fe wnaeth sawl AS ddatgan eu bod am newid eu pleidlais o'r ddwy bleidlais gyntaf ar y mater.

Image caption Liz Saville Roberts AS

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts fod cynnig y bleidlais yn weithred "dwyllodrus gan lywodraeth mewn anobaith".

Ychwanegodd: "Dewch â Phleidlais y Bobl i ni - ein hachubiaeth mewn democratiaeth gyhoeddus."

Ond yn allweddol i'r bleidlais oedd datganiad plaid unoliaethol y DUP o Ogledd Iwerddon. Fe ddywedon nhw yn y senedd na fydden nhw'n cefnogi'r llywodraeth.

Gyda'r nifer o ASau Ceidwadol oedd yn dal yn benderfynol o wrthwynebu cytundeb Theresa May, roedd y cytundeb wedi'i drechu.

Straeon perthnasol