Callum Paterson i fethu gweddill y tymor oherwydd anaf

Callum Paterson Image copyright Getty Images
Image caption Mae Paterson ymysg prif sgorwyr Caerdydd eleni gyda pedair gôl yn yr Uwch Gynghrair.

Mae disgwyl i un o brif sgorwyr Caerdydd, Callum Paterson, fethu gweddill y tymor oherwydd anaf i'w bigwrn.

Cafodd Paterson, sy'n gallu chwarae fel amddiffynnwr, yng nghanol cae neu fel ymosodwr, ei anafu yn ystod buddugoliaeth Yr Alban yn erbyn San Marino ddydd Sul.

Bydd yr Albanwr yn derbyn llawdriniaeth ar 1 Ebrill a dywedodd rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock fod colli Paterson yn "ergyd fawr".

Mae Caerdydd eisoes wedi colli'r amddiffynnwr canol Sol Bamba am weddill y tymor wedi iddo anafu ei ben-glin yn erbyn Wolves yn gynharach yn y mis.

Bydd Caerdydd yn herio Chelsea yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sul.

Straeon perthnasol