Symud trigolion yn dilyn tân mynydd ym Metws-y-Coed

Tân Betws-y-Coed Image copyright Gary Smith
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 16:15 brynhawn Gwener

Cafodd trigolion eu symud o'u cartrefi yn ardal Betws-y-Coed wedi i dân mynydd wasgaru i goedwig a bygwth adeiladau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y tân, ddechreuodd am 16:15 brynhawn Gwener, wedi gwasgaru i ardal milltir o hyd.

Roedd diffoddwyr o Fae Colwyn, Llandudno, Dolgellau, Corwen, Cerrigydrudion, Llanrwst a'r Rhyl oll wedi mynychu'r digwyddiad.

Bu Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn helpu gyda'r gwaith o symud trigolion.

Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.

Image copyright Helen Fisher
Image caption Dywedodd Helen Fisher bod "llwybr o fwg llwyd yn ymestyn ar draws Dyffryn Conwy"

Dywedodd Helen Fisher, sy'n byw yn lleol, bod y fflamau'n ymddangos "mor dal â choed".

"Rwy'n meddwl ei fod yn sylweddol," meddai.

"Mae 'na lwybr o fwg llwyd yn ymestyn ar draws Dyffryn Conwy tua'r arfordir."