Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ym Mhowys

Ystradgynlais Image copyright Google
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Castell-nedd yn Ystradgynlais nos Sadwrn

Mae cerddwr wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan gar ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ar Heol Castell-nedd yn Ystradgynlais am tua 21:00 nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bu farw'r dyn yn y fan a'r lle wedi iddo gael ei daro gan gar Renault Clio coch.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un welodd y dyn yn cerdded ar hyd y ffordd cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig