Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

Seaway Parade Image copyright Google
Image caption Cafodd un person anafiadau allai beryglu bywyd yn y gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ym Mhort Talbot.

Cafodd yr heddlu eu galw i Seaway Parade yn ardal Baglan tua 23:20 nos Sul yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.

Mae'r pedwar yn parhau yn yr ysbyty, ac mae un ohonyn nhw wedi dioddef anafiadau all beryglu bywyd.

Cafodd dau ddyn 26 oed eu harestio gan blismyn sy'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig