Brexit: ASau yn gwrthod pedwar cynnig arall

brexit

Mae Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio yn erbyn bob cynnig oedd yn ceisio datrys anghydfod cytundeb ymadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar gyfres o gynigion gyda'r nod o geisio canfod cyfaddawd am y broses o adael yr UE.

Nid yw'r bleidlais yn un ystyrlon - hynny yw doedd dim gorfodaeth ar y Llywodraeth i fabwysiadu unrhyw un o'r cynigion - ond fe fyddai pasio o leiaf un ohonyn nhw wedi rhoi pwysau ar y Prif Weinidog, Theresa May i newid ei safbwynt.

Roedd y pleidleisio yn dilyn patrwm nos Fercher diwethaf, gyda'r ASau'n bwrw'u pleidlais ar bapur ar bedwar cynnig.

Y pedwar cynnig gerbron aelodau oedd:

  • Cynnig C (gan y Ceidwadwr Kenneth Clarke) - bod y DU yn dod yn rhan o Undeb Tollau parhaol gyda'r UE, a bod hynny'n rhan o gytundeb ymadael;
  • Cynnig D - (gan y Ceidwadwr Nick Boles) - bod y DU yn ymuno gyda Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop ac Ardal Economaidd Ewrop gyda gwledydd megis Norwy. Byddai hyn yn golygu byddai'r DU yn aros yn rhan o'r farchnad sengl ac fe fyddai'r hawl i symud rhwng gwledydd yr ardal Ewropeaidd yn parhau. Mae'r cynnig yn cael ei adnabod fel cynnig Marchnad Gyffredin 2;
  • Cynnig E (gan Peter Kyle a Phil Wilson o'r Blaid Lafur) - bod y DU yn cynnal pleidlais ar unrhyw gytundeb Brexit sy'n cael ei basio gan y Senedd cyn bod modd ei weithredu;
  • Cynnig G (gan Joanna Cherry o'r SNP) - roedd y cynnig yn rhoi cyfres o gamau i atal y DU rhag gadael yr UE heb gytundeb. Y cam cyntaf fyddai galw ar y llywodraeth i ofyn am estyniad pellach os nad oes cytundeb dau ddiwrnod cyn y dyddiad ymadael o 12 Ebrill. Os nad yw'r UE yn caniatau estyniad pellach, byddai ASau'n cael dewis rhwng gadael yr UE heb gytundeb neu dynnu Erthygl 50 yn ôl i stopio Brexit yn llwyr. Pe byddai hynny'n digwydd, byddai ymchwiliad i geisio canfod pa fath o berthynas fyddai rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol ac a fyddai'n dderbyniol ym Mrwsel.

Roedd y bleidlais agosaf ar Gynnig C gyda 273 o blaid a 276 yn erbyn.

Trechwyd Cynnig D o 282-261, Cynnig E o 292-280 a Chynnig G o 292-191.

Wedi'r bleidlais fe siaradodd yr Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay. Dywedodd y byddai'r cabinet yn cwrdd fore Mawrth i drafod y camau nesaf.

Yn syth wedi hynny fe gododd yr AS Ceidwadol Nick Boles - cynigydd Cynnig D - gydag araith fer ond deimladwy.

Dywedodd fod yr anghydfod yn cael ei achosi gan ei gyd-aelodau Ceidwadol oedd yn anfodlon cyfaddawdu, ac fe gyhoeddodd na fyddai'n medru parhau i eistedd fel Ceidwadwr yn y senedd.

Yr ymateb o Gymru

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod y Deyrnas Unedig yn "symud yn beryglus o agos" at adael yr UE heb gytundeb.

Ychwanegodd: "Mae ein hopsiynau yn parhau i gulhau.

"Os nad oes modd datrys yr anghytundeb llwyr hwn ac mae'r Tŷ Cyffredin yn methu cytuno ar ffordd ymlaen, yna dylid mynd â'r penderfyniad yn ôl at y bobl drwy bleidlais gyhoeddus."

'Proses hurt'

Mae'r AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd a'r cyn-weinidog Brexit, David Jones wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd yn San Steffan nos Lun fel "proses hurt sydd, yn ddisgwyliadwy, heb ddod i unrhyw ganlyniad".

Mae'n pwysleisio mai'r sefyllfa gyfreithiol nawr yw bod rhaid gadael yr UE wythnos i ddydd Gwener, gan ychwanegu: "Dyna beth wnaeth pobl bleidleisio drosto, a dyna beth mae'n rhaid i ni weithredu."

Image caption Dywed David Jones bod rhaid dychwelyd i'r sefyllfa gyfreithiol a gadael yr UE ar Ebrill 12

Dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb - a bleidleisiodd yn erbyn dod yn rhan o Undeb Tollau parhaol ac o blaid y tri chynnig arall - bod methiant Tŷ'r Cyffredin i gytuno ar ffordd ymlaen yn cynnig "llygedyn o obaith unwaith yn rhagor i gytundeb y Prif Weinidog" ond bod gwrthwynebiad y DUP yn parhau'n faen tramgwydd.

Ychwanegodd ei fod yn dal i obeithio y bydd modd sicrhau "ychwanegiadau" i gytundeb Theresa May "fydde'n galluogi i'r cytundeb hwnnw i basio", gan gynnwys "ei glymu i bleidlais derfynol".

Straeon perthnasol