Dadorchuddio plac i nodi cyfraniad 'Brenin Bancyfelin'
- Cyhoeddwyd

Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio i gydnabod cyfraniad arbennig y seren rygbi o'r 70au, Delme Thomas, mewn seremoni yn Sir Gâr nos Wener.
Mae Bancyfelin yn bentref sydd wedi cynhyrchu chwaraewyr rygbi o fri, a'r arwr chwedlonol yn eu plith yw Thomas - fu'n gapten Llanelli ac yn un o sêr y Llewod.
Mewn seremoni arbennig yn y pentref nos Wener, fe gyflwynodd Cymdeithas yr Hoelion Wyth y plac iddo.
Mae'r gymdeithas wedi bod yn anrhydeddu pobl sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig o fewn eu maes dros y blynyddoedd diwethaf - yn eu plith Jonathan Jones, pencampwr rasio cychod cyflym o Aberteifi, a'r dringwr Caradoc Jones.
Dyma'r tro cyntaf i blac gael ei osod yn Sir Gaerfyrddin gan yr Hoelion Wyth.
'Ym Mancyfelin mae'r gwreiddyn'
Syndod o'r mwyaf i Thomas oedd darganfod y byddai plac yn cael ei ddadorchuddio iddo.
"'Wi ffaelu credu bo' nhw moyn rhoddi plac i fi," meddai.
"Mae sawl person enwog wedi dod o Fancyfelin ac 'wi'n teimlo bach yn euog bo fi'n cael plac yn y pentre' yn fwy na neb arall."
Ond mae Thomas yn pwysleisio mai ym Mancyfelin y dylai'r plac fod.
"Dyna ble mae'r gwreiddyn. Dyna ble we'n i'n mynd i'r Ysgol Sul gyda Mam," meddai.
'Byth yn colli oedfa'
Yn ôl Eurfyl Lewis o'r gymdeithas, y geiriau ar y gwaelod sy'n bwysig - "Gŵr bonheddig a diymhongar".
"Mae hynny i fi yn cyplysu popeth mae Delme yn sefyll drosto," meddai Mr Lewis.
"Fel cymdeithas, ry'n ni'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion pan fônt yn fyw, a dyna pam ein bod yn gwneud hyn."
Bydd y plac yn cael ei osod ar dir Capel Bancyfelin, ble mae Thomas yn aelod.
I'w weinidog, y Parchedig Beti Wyn James, mae'n gydnabyddiaeth deilwng i ddyn arbennig.
"Mae e yma bob dydd Sul. Dyw e byth yn colli oedfa. Mae e'n bresenoldeb tawel yn y sedd gefn," meddai.
Fe ganodd disgyblion Ysgol Gynradd Bancyfelin hefyd yn y seremoni.
"Gyda Delme yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol, mae'n wych fod y plant yn cymryd rhan," meddai'r Parchedig James.
"Mae'n role model ardderchog iddyn nhw."
Yng ngeiriau'r gweinidog: "Mae Delme yn meddwl y byd o Fancyfelin ac mae Bancyfelin yn meddwl y byd o Delme hefyd."