Miliwnydd eisiau torri record cyflymder y byd yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Zef EisenbergFfynhonnell y llun, Zef Eisenberg
Disgrifiad o’r llun,
Zef Eisenberg sefydlodd y cwmni Maximuscle

Mae miliwnydd yn gobeithio creu hanes yng Nghymru ddydd Sadwrn gan fod y person cyntaf i dorri dwy record cyflymder y byd ar dywod.

Mae Zef Eisenberg eisoes wedi torri'r record cyflymder tywod ar feic modur.

Nawr mae'r entrepreneur 46 oed eisiau torri'r record tywod mewn car.

Bydd sefydlydd cwmni Maximuscle yn gobeithio mynd yn gynt na 200mya yn ei Porsche 911 Turbo S ar Draeth Pentywyn yn Sir Gâr.

"Rwy'n gwneud hyn gan ei fod yn rhoi ystyr a phwrpas i mi," meddai Mr Eisenberg.

Ar Draeth Pentywyn y torrodd Syr Malcolm Campbell y record cyflymder tir deirgwaith yn yr 1920au, gan gynnwys ar y Blue Bird eiconig.

Damwain yn 2016

Bydd Mr Eisenberg yn ceisio'i record ar ôl goroesi damwain beic cyflymaf y DU wrth deithio ar 230mya yn 2016.

Fe dorrodd 11 asgwrn, treuliodd dri mis yn yr ysbyty a bu'n rhaid iddo ddysgu cerdded eto ar ôl chwalu ei feic modur.

Torrodd y dyn busnes y record tywod beiciau gyda'i feic modur Suzuki Hayabusa y llynedd ym Mhentywyn, gan gyrraedd 201.5mya.

Mae ei dîm wedi adeiladu "car anhygoel o bwerus", meddai.