Yr athronydd o Rydychen sy'n dysgu ffermio yng Nghymru

Sam Robinson ar ucheldir Cymru Image copyright Camilla Greenwell
Image caption "...roedd rhywbeth yn galw fi yn ôl," meddai'r Sais Sam Robinson sydd wedi dysgu Cymraeg a darganfod hen, hen gysylltiad gyda Chymru ar ôl symud yma

Ar ôl astudio athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, penderfynodd Sam Robinson o Rydychen newid trywydd ei fywyd yn llwyr a symud i gefn gwlad Cymru i ddysgu sut i fyw ar y tir.

Setlodd ym Mro Ddyfi tua dwy flynedd yn ôl a dysgu Cymraeg.

Wedi ei fagu yn un o drefi prifysgol enwocaf Lloegr, doedd ganddo ddim cysylltiadau â Chymru na'r iaith, na byd amaeth - hyd y gwyddai.

Ond ers dod i fyw yma, mae wedi darganfod pennod o hanes teuluol sy'n ei argyhoeddi ei fod wedi cael ei "alw adref".

"Ers oni'n ifanc oni'n meddwl o'n i isho symud i gefn gwlad - o'n i eisiau byw yn y mynydd. O'n i ddim yn siŵr be oni'n mynd i neud ond oni'n siŵr nad o'n i eisiau byw mewn tref.

"Nes i symud i Gaerdydd i astudio athroniaeth. Wedyn ar ôl tair blynedd oni'n meddwl reit, amser i fynd rŵan a nes i symud i Sir Benfro, lle nes i ffeindio allan fod fy hen, hen, mam-gu yn dod o'r fferm drws nesa i lle oni'n byw.

"Roedd yn hollol nyts. O'n i'n byw tu allan i Glunderwen ac roedd fy hen, hen, fam-gu o fferm tua pum milltir i ffwrdd, jyst ochr Sir Benfro o Hendy Gwyn."

Yn y gwaed

Doedd o ddim yn gwybod hyn nes i'w hen ewythr ddweud wrtho ei fod yn cofio gweithio ar fferm y teulu yn Sir Northampton pan oedd yn ifanc a bod ei fam-gu yn Gymraes o Sir Benfro.

Felly tra bod ei rieni - ei dad yn rhedeg canolfan i blant ag awtistiaeth yn Swindon a'i fam wedi ymddeol o swydd ysgrifenyddol - yn methu deall pam ei fod wedi mynd i ffermio mae ei hen ewyrth yn honni ei fod "yn ei waed".

"Do'n i ddim yn gwybod dim cyn symud, so mae fel dwi wedi dod adre - roedd rhywbeth yn galw fi yn ôl," meddai Sam.

"Roedd hwnna yn rili pwysig i fi o ran penderfynu gosod gwreiddiau. Wedyn wnes i ddim edrych nôl."

Image copyright Telesgop
Image caption Bu Alun Elidyr a chriw rhaglen Ffermio yn ffilmio Sam wrth ei waith ar fferm ym Mro Ddyfi

Symudodd i Bennal ar ôl teimlo ychydig yn ynysig yn Sir Benfro.

"'Dwi rili wedi ffeindio teimlad o berthyn fan hyn a dwi wedi cael croeso cynnes o'r bobl lleol," meddai.

Cefnogi Cymru ac ymddangos ar Ffermio

Mae ei deulu'n dechrau dygymod â'i ddewis i fyw yng ngefn gwlad Cymru, yn enwedig ar ôl iddo ymddangos ar raglen Ffermio ar S4C.

"Yn gyntaf roedden nhw'n ffeindio fo dipyn yn anodd ei ddeall ac mae Dad yn dal yn stryglo efo fi yn syportio Cymru yn y Chwe Gwlad! Mae'n gallu chwerthin amdano nawr!

"Ond maen nhw'n rili suportive rŵan ers gweld fi ar y teledu ar S4C. Roedd hwnna'n lot o help iddyn nhw weld fi'n gwneud yn dda ac yn appreciated am wneud ymdrech.

"Ond mae mam yn hoffi remindio fi nad ydw i erioed wedi gwneud bywyd yn hawdd i fy hun!"

Mae'n anodd cael digon o waith meddai Sam - nid yn unig am ei fod yn ddibrofiad ond hefyd am nad yw'n gyfnod hawdd i ffermydd Cymru.

"Does 'na ddim lot o bres mewn ffermio ar hyn o bryd felly does 'na ddim lot o ffermwyr sy'n gallu emploio rhywun tu allan i'w teulu nhw," meddai Sam.

Ond drwy fod digon dewr i fynd i holi, mae wedi bod yn lwcus.

"Wnes i ddweud dwi ddim yn gwybod be dwi'n 'neud, dwi ddim yn dod o deulu ffermio, dwi jyst wedi cychwyn gweithio ar fferm. Ond 'na'th cwpl o ffermwyr roi chance i fi," meddai.

"Mae wedi bod yn steep learning curve!"

Dim ond ers dod i Fro Ddyfi mae Sam wedi cychwyn dysgu'r iaith yn ffurfiol mewn dosbarth.

Mae wedi dysgu llawer iawn wrth ddefnyddio'r iaith yn y clwb rygbi ac fel aelod o'r côr meibion lleol.

"Roedd yn rili pwysig i fi ddysgu," meddai.

"Mae'n anodd dweud yn union ond dwi'n teimlo fel pan ti'n ffeindio ystyr, y teimlad o adre a perthyn

"Mae'n rili pwysig i fi roi rhywbeth yn ôl i'r lle ac i'r diwylliant a dwi ddim yn gallu gweld sut dwi'n gallu byw fan hyn heb ddysgu'r iaith - mae'r iaith yn rili pwysig i bopeth fan hyn - i'r diwylliant, i'r bobl ac i weithio ar y tir hefyd - mae popeth wedi clymu gyda'i gilydd."

Image copyright Camilla Greenwell
Image caption Drwy ei waith gyda'r undeb mae Sam yn gobeithio cyflwyno modelau ffermio sy'n edrych ar ôl buddiannau'r fferm fach ac osgoi'r problemau allai godi yn sgil Brexit

Ond mae'n poeni am ddyfodol yr iaith, yn enwedig mewn lleoedd fel Bo Ddyfi sydd "ar y ffin rhwng Cymry Cymraeg a Cymry Saesneg," meddai.

"Y cymuned ffermio ydy'r front line of defence a mae pawb a phopeth Cymreig yn yr ardal ar y fferm ac os ydy'r fferm yn mynd wedyn mae'r iaith yn mynd.

"Ac mae hyn yn rili problem enfawr i fi".

Mae ei brofiad wedi ysbrydoli i weithio'n fwy swyddogol dros fuddiannau ffermydd bach hefyd.

Fis Mawrth, roedd ym Mrwsel gyda undeb y Land Workers Alliance, rhan o fudiad La Via Campesina, sy'n gweithio dros sofraniaeth bwyd - sef rhoi rheolaeth leol i gymunedau dros y ffordd mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei fasnachu a'i fwyta.

Y nod meddai Sam ydy datblygu economïau ffermio lleol a rhanbarthol mewn ffordd sy'n gynaliadwy o safbwynt ecolegol, cymdeithasol ac economaidd.

"Dwi'n credu bod y math yna o fodel yn ddiddorol iawn i ffermio Cymru oherwydd gyda Brexit rydyn ni'n wynebu sefyllfa anhygoel o ansicr gan bod ein ffermio mor ddibynnol ar farchnadoedd rhyngwladol," meddai.

Edrych ar ôl buddiannau'r fferm fach ac osgoi'r problemau allai godi yn sgil Brexit yw'r nod meddai.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig