Trywanu Pont-y-pŵl: Dyn yn y llys
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ifanc anafiadau difrifol wedi ymosodiad ger siop Tesco, Pont-y-pŵl
Mae dyn ifanc wedi ymddangos yn y llys ar ôl i ddyn gael ei drywanu y tu allan i archfarchnad Tesco.
Dywed Heddlu Gwent fod dyn 22 oed wedi cael anafiadau i'w stumog ar ôl cael ei drywanu ym Mhont-y-pŵl tua 21:30 nos Sadwrn.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad corfforol difrifol, o fod â chyllell yn ei feddiant, o ladrata ac o achosi difrod.
Fe ymddangosodd o flaen ynadon yng Nghasnewydd ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae dau ddyn arall a gafodd eu harestio mewn cyslltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.