Cymorth trethi i bobl â nam meddyliol
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei gwneud hi'n haws i deuluoedd pobl sy'n byw gydag anhwylderau meddyliol dwys gael gostyngiadau yn y dreth gyngor.
Cafodd cynllun gostyngiad ar gyfer pobl sy'n dioddef cyflwr meddyliol dwys ei gyflwyno yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn 1992.
Nawr bydd y wybodaeth sydd yn cael ei rannu gan holl gynghorau'n cael ei symleiddio a dim ond un ffurflen gais fydd yn rhaid ei llenwi.
Mae'r cynllun hwn ar gyfer unrhyw berson sydd â chyflwr parhaol sy'n effeithio ar eu gallu meddyliol neu gymdeithasol - megis dementia, Alzheimers, Parkinsons, anawsterau dysgu neu strôc.
Rhwystro pobl yn 'warthus'
Yn ôl y wefan ymgyrchu MoneySavingExpert, mae diffyg hyrwyddo a pholisïau anghyson ar draws yr holl awdurdodau wedi golygu bod degau o filoedd o bobl a oedd yn gymwys wedi methu a hawlio gostyngiad.
Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com: "Mae nifer o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, y rhai sy'n byw â 'nam meddyliol sylweddol' wedi bod yn gymwys i gael gostyngiad treth gyngor ers blynyddoedd, ond yn anffodus dydy pobl ar draws Prydain ddim yn cael gwybod hynny'n aml iawn - sy'n golygu eu bod yn colli arian a allai fod wedi trawsnewid ansawdd eu bywydau.
"Dydy'r rhan fwyaf o gynghorau ddim yn helpu i dynnu sylw at hyn, ac mae'n warthus bod achosion yn aml o rwystro pobl rhag ei hawlio drwy drosglwyddo gwybodaeth anghywir.
"Dywedodd rhai aelodau o staff, pan wnaethom eu ffonio'n ddirybudd, nad oedd y gostyngiad yn bodoli, sy'n golygu bod gwahaniaethau mawr yn nifer y bobl sy'n cael y cyfle i fanteisio ar y cymorth ar draws y wlad.
"Yn syml iawn, nid yw hyn yn dderbyniol."
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd teuluoedd y dioddefwyr hefyd hawlio'n ôl unrhyw ostyngiadau treth gyngor hyd at yr adeg pan gawson nhw'r diagnosis.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd gyda'r dull newydd hwn, gan helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed i gael y cymorth a'r gostyngiadau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i MoneySavingExpert a Martin Lewis am ddwyn y mater hwn i'n sylw a gweithio gyda ni i'w ddatrys."
Mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi cyhoeddi deddfwriaeth newydd er mwyn dileu'r gosb o garchar i bobl am beidio â thalu'r dreth gyngor, ac er mwyn eithrio pobl ifanc hyd at 25 oed sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- 8 Ebrill 2019
- 8 Ebrill 2019
- 1 Ebrill 2019