Hennessey 'ddim yn gwybod beth oedd saliwt Natsïaidd'

Wayne Hennessey Image copyright Twitter/Daniel Storey
Image caption Cafodd y llun ei rannu ar Twitter wedi iddo gael ei weld ar Instagram

Doedd golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey ddim yn gwybod beth oedd saliwt Natsiaidd pan gafodd ei gyhuddo o dorri rheolau ymddygiad, yn ôl panel Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Cafwyd Hennessey, 32, yn ddieuog ar ddechrau mis Ebrill o wneud y saliwt sarhaus mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth.

Mae'r comisiwn rheoleiddio annibynnol bellach wedi cyhoeddi adroddiad yn egluro'r rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad.

Yn ôl yr adroddiad fe ddangosodd Hennessey "anwybodaeth druenus" am Adolf Hitler, ffasgiaeth a'r gyfundrefn Natsïaidd.

Wrth wadu'r honiad ar 6 Ionawr, dywedodd Hennessey ei fod yn galw ar y person oedd yn tynnu'r llun a bod unrhyw debygrwydd i saliwt Natsïaidd yn "gyd-ddigwyddiad llwyr".

Wedi'r gwrandawiad dywedodd FA Lloegr nad oedd y cyhuddiad "wedi'i brofi" gan gomisiwn rheoleiddio annibynnol.

Mae adroddiad y comisiwn yn nodi bod Hennessey wedi dweud o'r dechrau nad oedd yn gwybod beth oedd saliwt Natsïaidd.

Ychwanega'r adroddiad: "Er pa mor annhebygol mae hynny'n swnio i genedlaethau hŷn, nid ydyn ni'n credu bod hynny yn gelwydd."

"Bydde ni'n awgrymu bod Mr Hennessey nawr yn ceisio cyfarwyddo'i hun gyda'r hanes sydd dal mor bwysig i rai ohonom sy'n byw mewn gwlad rydd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol