Catrin Finch: Hapusrwydd, y delyn a bywyd wedi canser

Catrin Finch yn sgwrsio gyda Garry Owen
Image caption Ar ôl triniaeth cemotherapi mae Catrin Finch wedi bod yn dweud wrth Garry Owen sut mae ei chariad at y delyn wedi ei chadw i fynd drwy'r salwch

Ar ôl cael triniaeth am ganser y fron a gwahanu oddi wrth ei gŵr mae'r delynores Catrin Finch yn ôl yn perfformio gyda'i thelyn ac mewn perthynas gyda'i phartner newydd, Natalie.

O'i chartref newydd ym Mhentyrch mae'r cerddor byd-enwog a'r fam i ddwy ferch wedi bod yn trafod y cyfnod anodd mae wedi bod trwyddo a'i chariad at y delyn gyda Garry Owen fel rhan o gyfres Meistri, Radio Cymru.

Dyma ddetholiad o'i sylwadau:

'Y delyn yw fy mywyd'

"Mae wedi bod yn rhan o fy mywyd ers i fi fod yn blentyn bach chwech oed.

"...Mae chwarae yn sicr yn gysur i fi. Dwi'n teimlo fy hunan yn mynd yn eitha' stressed pan dwi ddim yn chwarae am sbel. Ar ôl i fi gael ryw amser bach i fi fy hunan i chwarae mae pethau rhywsut yn slofi lawr a tawelu.

"Dwi'n gwybod be dwi'n gallu ei wneud a'i chwarae a hwnna 'di'r peth sy'n constant. Mae pethau eraill yn mynd ac yn dod, yn symud a newid o gwmpas ond mae hwnna yn gallu mynd ymlaen fel y mae o.

"Roedd petha' yn reit anodd, ac ambell waith o'n i rili yn y depths o pethe'n cwympo a torri o nghwmpas i. Roedd na cwpl o weithiau pan o'n i'n dod at y delyn ac yn crio - oni'n llefen achos oedd y gerddoriaeth yn dod ag emosiynau allan."

'Cadw'r balans rhwng bywyd a chwarae'r delyn sydd wastad wedi bod y broblem fwyaf i fi.'

"Mae gen i ddwy ferch, maen nhw yn yr ysgol fan yma felly dydyn nhw ddim yn gallu dod o gwmpas efo fi. Felly pan dwi'n mynd i ffwrdd dwi angen neud yn siŵr bo fi'n cael amser gartre hefyd, mae angen cael y balans a hwnna sydd dal y peth mwya' anodd, achos dwi'n gorfod dewis.

"Mae lot o be dwi'n wneud tramor... Mae'n anodd i fi fel mam ac mae'n anodd iddyn nhw [y merched]. Mae ffôns a Facetime yn ei wneud yn haws i gadw mewn cysylltiad ond ar ddiwedd y dydd dwi'n fam iddyn nhw a dwi'n teimlo'r ishe na i fod efo nhw ac i fod gartref efo'r teulu."

'Fyse fo'n anodd i rywun beidio newid pan ti'n cael salwch fel'na'

"Yn llythrennol, ti'n cael y diagnosis a clywed y geiriau a mae na percentage [o siawns] bod chi ddim yn mynd i fod o gwmpas. Mae hynna'n dy newid di.

Image caption Roedd Catrin Finch ar fin dechrau taith i hybu ei halbwm pan glywodd bod ganddi ganser ac fe benderfynodd barhau i gynnal y cyngherddau drwy Brydain tra'n cael triniaeth cemotherapi

"Fel perfformwraig ambell waith 'dych chi'n cael ei cloi i fyny mewn i bwysigrwydd hynny ormod. So oni'n meddwl bod chwarae'r delyn a'r cyngerdd falle'n fwy pwysig nag oedden nhw.

"Yn y flwyddyn diwetha' mae hwnna di rhoi gwers i fi bod iechyd, bod hapusrwydd, ambell waith yn fwy pwysig nag unrhyw beth arall."

'Oni eisiau ymladd, oni ddim eisiau eistedd gartref...'

"Y prif reswm [wnes i barhau gyda'r cyngherddau] oedd i brofi bod fi'n gallu neud o...

"Dwi ddim yn berson sydd jyst yn iste o gwmpas lot.

"Hanner brwydr salwch fel canser ydi brwydr ti dy hunan efo dy hunan.

"Oni ddim eisiau gadael i fi ddisgyn mewn i deimladau isel, oni eisiau cadw fy hunan fyny yna.

"Yn gorfforol oni'n wan iawn, roedd yn anodd iawn ac oni'n blino lot fawr, ond roedd y criw o bobl o nghwmpas i yn anhygoel...

"Roedd yn anodd - roedd na ddiwrnodau rili anodd, mae cemotherapi yn uffernol, ond yn gyffredinol mi wnaethon ni lwyddo efo lot o amynedd, lot o gariad, ffrindiau, teulu a cherddoriaeth a pherfformio.

'Fydd dim digon o gerddorion yn y dyfodol os ydy pethau'n cario ymlaen'

"Mae'n sicr yn rhywbeth dwi di bod yn trio gweiddi allan amdano dros y blynydde.

"Mi fydd na broblem, os mae pethe'n mynd ymlaen fel maen nhw, fydd na ddim digon o gerddorion yn y dyfodol, yn enwedig offerynwyr, achos hwnna 'di'r peth ola' mae pobl yn dewis i ei wneud, chwarae offeryn.

Image caption Dywed Catrin Finch bod y toriadau i addysg gerddorol yn peryglu cerddorion y dyfodol

"Dwi'n gweld o fel rhan o'n cyfrifoldeb ni fel cerddorion i wneud yn siŵr fod na bobl ifanc yn dechrau, a rhoi nôl beth wnaethon ni gymryd pan oedden ni'n blant.

"Nes i pan oni'n blentyn yn sicr cael lot fawr o gymorth gan yr ysgol ac athrawon, nid yn unig yn gerddorol ond ym mhob pwnc.

"O'n i yn Ysgol Gynradd Aberaeron ac o feddwl yn ôl roedd o'n eitha' anhygoel fel roedd pawb wedi ymuno i wneud i'r peth weithio ... 'nath y cyngor, Ceredigion, helpu pan oedd angen prynu telyn fawr - dwi ddim yn gweld hwnna'n digwydd y dyddiau yma i blentyn yn yr un sefyllfa.

"...Dani jyst yn gorfod trio cwffio a helpu plant a cherddorion ifanc."

'Dwi ishe bod yn wahanol [fel telynores]'

"Dwishe neud rhywbeth gwahanol ddim jyst isho neud beth mae pawb arall wedi neud.

"... dwi'n pwshio fy hunan o ran ffiniau cerddorol a mae hwnna achos dwi yn mynd yn frustrated efo'r byd clasurol, yn enwedig y delyn yn y byd clasurol.

"Mae na preconceptions, mae na lun mae pawb yn meddwl amdano pan maen nhw'n meddwl am delynores a dwi ddim eisiau bod yn rhan o hwnna."

'Os dwi ishe gyrfa ar y llwyfan mae rhaid derbyn bod 'chydig bach o fy mywyd personol yn mynd i fod ar y llwyfan hefyd'

"Roedd fy mhriodas wedi chwalu jyst cyn y salwch ac mae 'na newid mawr wedi bod yn fy mywyd i yn bersonol. Fyswn i di hoffi tase hwnna ddim rili yn bwysig i neb arall ond y realiti ydy ei fod o a bod na bobl efo diddordeb.

"Ond mae 'na ffordd o ddelio efo pethau a dwi'n gobeithio bod hwnna i gyd 'di cael ei ddelio efo parch.

"A'r plant wrth gwrs - dwi'n ymwybodol bod nhw ddim eisiau i neb arall siarad am eu bywydau nhw a dydyn nhw ddim yn haeddu hwnna...

"Yn fy sefyllfa fi dwi di bod yn lwcus iawn bod pawb 'di cadw parch at ei gilydd, mae'r pethe ma'n digwydd a 'dan ni 'di trio cadw bywyd i fynd gymaint a rydyn ni'n gallu."

'Dwi ddim yn gweld fod [fy rhywioldeb] o fusnes unrhyw un arall.'

"Dwi di cymryd naid fawr mewn lot o wahanol lefydd a wedi effeithio ar lot o wahanol bobl yn fy mywyd ac yn bersonol roedd rhaid i fi wneud hwnna, oni ddim yn y lle iawn...ac roedd y gerddoriaeth a'r bywyd yna yn symud efo fo...

"Dwi ddim yn gweld ei fod o fusnes unrhyw un arall.

"Bywyd fi ydy hwn, y peth mwya' pwysig oedd cael y plant trwyddo fo a dani wedi 'neud hynny.

"Ar ddiwedd y dydd dwi dal yr un person, dwi jyst yn byw mewn tŷ gwahanol efo rywun gwahanol.

"Dwi'n hapus iawn, mae bywyd yn grêt.

"Dwi'n iach, gobeithio, a mae'r dyddiadur yn llawn o gyngherddau. Ymlaen!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig