Dim arian ar ôl i orffen y gwaith o adfer Pier Bangor

Pier Bangor
Image caption Mae pen pellaf y pier a'r caffi ar gau ers ganol haf diwethaf

Mae cynllun atgyweirio Pier Bangor wedi dod i ben heb gwblhau'r holl waith adfer angenrheidiol am fod yr arian ar gyfer y prosiect eisoes wedi ei wario.

Roedd gan berchnogion y pier - Cyngor Dinas Bangor - £1.3m wrth gefn ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ond nawr mae angen £600,000 ychwanegol yn sgil problemau newydd a ddaeth i'r amlwg gyda phen pellaf y strwythur.

Bu'n rhaid cau'r rhan honno o'r pier rhestredig Gradd II ar fyr rybudd ar ôl i beirianwyr godi pryderon diogelwch am ei gyflwr mewn adroddiad.

Yn ôl maer y ddinas, y Cynghorydd John Wynn Jones, mae'r cyngor yn "fodlon derbyn arian gan unrhyw un" i orffen y gwaith, ac maen nhw wedi cysylltu â nifer o gyrff cyhoeddus i weld a ydyn nhw mewn sefyllfa i gyfrannu.

Image caption Maer Bangor, John Wynn Jones a'r Cynghorydd Huw Wyn Jones, sy'n cynrychioli ardal y pier

Mae'r pier - yr ail hiraf yng Nghymru - yn rhan amlwg o dirlun arfordirol Bangor ers agor yn 1896, a chyngor y ddinas sy'n berchen arno ers y 1980au.

Fe ddechreuodd y gwaith atgyweirio ddwy flynedd yn ôl ond fe gafodd y cyngor wybod fis Mehefin y llynedd fod cyflwr y pen pellaf mor wael nes bod perygl iddo syrthio i'r Fenai.

Mae yna sgaffaldiau yno o hyd ac fe fyddai'n gostus i'w tynnu i lawr a'u hail-osod maes o law.

"'Dan ni wedi sicrhau'r pen draw rwan, a dwi'n meddwl bod 'na dair adran arall ar ôl isio'u g'neud," meddai Mr Jones.

Image caption Mae gobaith y bydd diwedd y pier yn ddigon diogel i allu ystyried ailagor y caffi erbyn Mehefin

Dywedodd bod y cyngor wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a'r corff cadwraethol CADW yn gofyn am gymorth.

Mae'n amau a fyddai'r cyhoedd yn fodlon cyfrannu at ymgyrch dorfol er mwyn cwblhau'r gwaith gan fod trethdalwyr eisoes wedi rhoi arian sylweddol at adfer y pier yn y gorffennol.

"'Dan ni wedi bod yn ddarbodus a 'di celcian yr £1.3m 'dan ni wedi'i wario yn barod o'r trethi, a ma' hynny dros gyfnod o flynyddoedd. Dwi'n teimlo rwan na ddylian ni roi y £600,000 ar y trethi.

"Toes na'm un syniad oddi ar y bwrdd a 'dan ni'n fodlon derbyn arian gan unrhyw un."

Image caption Yn 1,500 droedfeddi o hyd, Pier Bangor yw'r un ail hiraf yng Nghymru

Yn ôl y cynghorydd sy'n cynrychioli ardal y pier ar gynghorau Bangor a Gwynedd, Huw Wyn Jones, mae angen gweithredu i warchod atyniad sy'n agos at galonnau trigolion, ymwelwyr a myfyrwyr prifysgol y ddinas.

"Mae o'n lle tu hwnt o brydferth," meddai.

"Dan ni 'di gweld be' sy'n digwydd yn Bae Colwyn lle os 'di rhywun ddim yn cynnal a chadw pier mae o'n mynd i ddisgyn i'r môr.

"Mae'n bwysig iawn bod ni'n 'neud ein gora' i achub hwn - dyna 'di'n job ni fel cyngor i drio achub petha' sy'n bwysig i'r gymdeithas."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol