Cyfraniad chwaraeon i les pobl Cymru yn fwy na'i gost
- Cyhoeddwyd
Mae gan chwaraeon y gallu i newid bywydau, meddai Owen Hathway
Am bob £1 sy'n cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon yng Nghymru mae yna werth cymdeithasol o £2.88, yn ôl ymchwil newydd ar ran Chwaraeon Cymru.
Mae yna amcangyfrif bod buddsoddi £1,191m mewn chwaraeon yn 2016/17 - sy'n cynnwys gwariant ariannol ac amser gwirfoddolwyr - wedi creu lles gwerth £3,428m.
Roedd adroddiad Gwerth Cymdeithasol Buddsoddiad mewn Chwaraeon yn mesur a dadansoddi gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y maes chwaraeon yng Nghymru.
Daw i'r casgliad bod y budd i gymdeithas yn fwy na'r gost, o werthuso bodlonrwydd pobl sy'n gwirfoddoli yn y sector neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon ynghyd â lefelau cyrhaeddiad o ran iechyd ac addysg.
Dywed Pennaeth Polisi a Dirnadaeth Chwaraeon Cymru, Owen Hathway bod yr adroddiad yn dadlau "achos cryf dros barhad buddsoddi mewn cynlluniau chwaraeon".
Dadansoddiad Canolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam ar ran Chwaraeon Cymru yw'r cyntaf o'i fath i fesur cyfraniad ehangach chwaraeon i les pobl Cymru.
Bodlon gyda bywyd
Mae economegwyr wedi dyfeisio fformiwla sy'n ceisio mesur gwerth pethau fel lles ac iechyd.
Mae'r fersiwn Gymreig o'r fformiwla yna yn cael ei ddefnyddio gan gyrff cyhoeddus fel Chwaraeon Cymru i roi gwerth ar yr hyn maen nhw'n ei wneud gydag arian trethdalwyr.
Lles sydd wedi gwella bodlonrwydd gyda bywyd sydd i gyfrif am 60.6% o'r ffigwr hwnnw ar y cyfan.
Gwelliant o ran iechyd oedd yr ail ganlyniad mwyaf gyda gwerth cymdeithasol o £295.17m.
O fewn y cwmpas iechyd, roedd yna les gwerth £102.13m o ganlyniad lleihau mynychder dementia.
Mae'r dadansoddwyr yn cyrraedd y ffigwr hwnnw trwy amcangyfrif nifer yr achosion posib o ddementia sy'n cael eu hatal trwy gymryd rhan mewn chwaraeon wedi eu lluosogi â chost y gefnogaeth flynyddol ar gyfartaledd i bob person â'r cyflwr.
Roedd £97.6m pellach yn ganlyniad lleihau'r risg o glefyd y galon neu strôc.
Amcangyfrifon 'ceidwadol'
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod graddedigion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn y brifysgol yn cael cyflog cychwynnol uwch na'r rhai sydd ddim yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod mai un ffactor na ellir ei gynnwys yn yr amcangyfrifon oherwydd diffyg data perthnasol yw cost anafiadau o ganlyniad cymryd rhan mewn chwaraeon.
Bydd cynnwys yr adroddiad yn helpu Chwaraeon Cymru i brofi bod y maes yn cyfrannu at dargedau gwella bywydau pobl yng Nghymru, ac i roi enghreifftiau o hynny i gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Mr Hathway, mae'r casgliadau'n dangos "sut y mae chwaraeon yn gallu - ac yn llwyddo - i gefnogi canlyniadau iechyd, cyflogadwyedd, undod cymdeithasol, y sector gwirfoddol, atal troseddu ac yn y blaen".
"Y newyddion calonogol yw bod yr amcangyfrifon, fel yn achos yr astudiaethau chwaraeon blaenorol, yn rhai ceidwadol - mae gwerth chwaraeon i Gymru yn debygol o fod yn fwy fyth."