Pam ydyn ni'n dweud geiriau fel licio, dreifio a joio?

wenglish

Rydyn ni i gyd wedi clywed y jôcs fod ddim ond angen rhoi '-io' ar ddiwedd gair Saesneg er mwyn siarad Cymraeg ond mae geiriau fel dreifio, iwsio a licio yn dân ar groen un dysgwr o Gaerdydd sy'n teimlo eu bod nhw'n ddryslyd.

Dywedodd Deiniol ab Alun, sydd o Gernwy yn wreiddiol, ar Twitter nad oedd yn deall pam fod llawer o siaradwyr brodorol yn defnyddio'r geiriau yma mae'n eu galw yn "Wenglish".

"Fel rhywun sydd wedi dysgu'r iaith, dwi ddim yn deall pam defnyddio nhw [y geiriau 'Wenglish'] achos mae gair eitha' syml, eitha' cyffredin yn bodoli yn barod," meddai Deiniol wrth BBC Cymru Fyw.

"Mae'n od achos dwi wedi cwrdd â llawer o ddysgwyr sydd byth yn defnyddio geiriau fel hyn.

"Dysgais i trwy Prifysgol Caerdydd a doedd neb yn defnyddio geiriau fel hyn, felly dwi wedi dysgu'r geiriau go iawn.

"Ond yn y byd go iawn, yn gwrando i Radio Cymru weithiau efallai, dwi'n clywed geiriau fel 'siario' a 'iwsio' a pethau fel hyn ac mae'n eitha' rhyfedd."

Y consensws ymysg y grŵp i ddysgwyr mae Deiniol yn ei fynychu yng Nghaerdydd hefyd, meddai, ydy nad oes neb arall yn y grŵp yn eu defnyddio chwaith.

"Geiriau syml fel 'siario', dwi ddim yn deall beth sy'n bod gyda 'rhannu' - mae'n eitha' syml," meddai Deiniol.

"Mae'n od yn y Gymraeg bod nhw'n dweud 'iwsio' a 'lico', pam ddim jyst dweud y gair yn Saesneg 'te? Dwi ddim yn deall pam Cymreigio pethau syml fel yna?"

Image copyright Deiniol ab Alun
Image caption Mae Deiniol ab Alun yn teimlo fod geiriau fel 'licio' a 'sbio' yn ddryslyd i ddysgwyr y Gymraeg sy'n dysgu'r geiriau 'go iawn' yn eu gwersi Cymraeg

Mae Deiniol yn cyfaddef ei fod yn dipyn o burydd iaith sy'n osgoi defnyddio bratiaith Saesneg hefyd.

Ac er fod Saesneg hefyd yn defnyddio nifer fawr o eiriau benthyg maen nhw fel arfer yn cael eu defnyddio ar eu ffurf wreiddiol.

Felly pam nad ydi siaradwyr Cymraeg yn gwneud hynny? Pam ychwanegu 'io' ar y diwedd?

Emosiwn geiriau

Yn ôl yr ieithydd Ioan Talfryn sy'n brif weithredwr Canolfan Iaith Popeth Cymraeg, dydy siaradwyr Cymraeg naturiol ddim hyd yn oed yn meddwl amdanyn nhw fel geiriau benthyg.

"Mae nifer o astudiaethau wedi'u gwneud o eiriau benthyg yn y Gymraeg sy'n dangos eu bod yn hanesyddol wedi eu trin fel geiriau cynhenid a bod siaradwyr Cymraeg yn aml yn anghofio mai geiriau benthyg oedden nhw'n wreiddiol e.e. coes, braich, cusan, talcen a brechdan," meddai.

Image caption Yn ôl Ioan Talfryn dydi siaradwyr Cymraeg brodorol ddim yn meddwl am licio a dreifio fel dim byd ond geiriau Cymraeg

"Mae ychwanegu -io ar ddiwedd berfau Saesneg yn rhan o'r arfer hwn. Mae newid goslef ac ynganiad geiriau benthyg i wneud iddyn nhw swnio'n fwy Cymraeg hefyd yn digwydd e.e. pro-ffe-SIYN-ol (yn hytrach na'r Saeneg pro-FESH-on-al)."

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod emosiwn yn y corff yn chwarae rôl ganolog wrth brosesu profiadau a gwrthrychau yn y byd real, meddai Mr Talfryn.

"Os yw rhywun wedi'i fagu ar aelwyd Gymraeg mae geiriau fel licio, dreifio, fflio, sbio yn teimlo, yn gorfforol, fel rhai 'go iawn', agos atoch chi, tra bo geiriau fel hoffi, gyrru, hedfan ac edrych yn medru teimlo fel geiriau plastig neu rhai ffurfiol.

"Os yw rhywun ar y llaw arall wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn (neu wedi mynychu ysgol Gymraeg ble mae mwyafrif llethol y plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg) dyw'r broses gorfforol hon o roi pwysoliad emosiynol positif i eiriau cyffredin, normal fel licio, dreifio, fflio, sbio ddim yn digwydd.

"Mae hoffi, gyrru, hedfan ac edrych yn medru teimlo'r un mor normal neu efallai'n fwy normal am eu bod nhw'n ffurfiau 'purach'. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd wedyn i wahaniaethu rhwng Cymraeg sy'n swnio'n naturiol i siaradwyr brodorol (yn enwedig y rheiny sy'n dod o ardaloedd ble mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol aml-ddosbarth) a Chymraeg 'llyfr'," meddai.

Hefyd mae pa mor fachog yw'r gair yn ffactor hefyd meddai Mr Talfryn.

"Mae 'iwsio' yn fyrrach na 'defnyddio'; ffeindio yn fyrrach na 'dod o hyd i', ond mae teledu yn fyrrach na television sy'n rhannol gyfrifol am ei lwyddiant fel gair."

Mae Mr Talfryn yn dweud ei fod yn derbyn dadl Memeteg sef fod iaith "fel feirws yn ein pennau a bod geiriau ac ymadroddion yn goroesi ac yn lledu os ydyn nhw'n medru atgynhyrchu'u hunain mewn modd Darwinaidd...

"Nid ni'n sy'n meddu arnyn nhw, nhw sy'n ein meddiannu ni," meddai.

A dyna esboniad felly pam ein bod ni'n licio iwsio geiriau fel dreifio a joio.

Oes gennych chi enghreifftiau diddorol eraill o eiriau fel hyn? Rhannwch nhw gyda Cymru Fyw ar Facebook, Twitter neu e-bost, cymrufyw@bbc.co.uk

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig