Ffrae am bregethwr dadleuol a dau AC

Darren Millar a Russell George
Image caption Mae Darren Millar AC a Russell George AC yn ymddiredolwyr Sefydliad Evan Roberts sydd yn berchen ar Gapel Pisgah yng Nghasllwchwr

Dylai dau aelod cynulliad Ceidwadol dorri cysylltiadau â phregethwr a honnodd bod perthynas hoyw yn bechod, yn ôl ymgyrchydd hawliau dynol blaenllaw.

Mae Darren Millar, AC Gorllewin Clwyd, a Russell George, AC Maldwyn yn ddau o dri ymddiriedolwr Sefydliad Evan Roberts sydd â chysylltiadau ariannol ag eglwys yn Singapore.

Mae'r gweinidog yno, Yang Tuck Yoong, wedi galw ar yr eglwys i "gymryd safiad" yn erbyn pobol hoyw.

Dywedodd Peter Tatchell, ymgyrchydd dros hawliau pobol hoyw, nad yw barn y gweinidog yn "gydnaws â gwerthoedd dyngarol".

Cysylltiadau Cymreig

Prynodd y Sefydliad Gapel Pisgah yng Nghasllwchwr yn 2014, yn rhannol gyda benthyciad gan Mr Millar.

Eglwys Gymunedol Cornerstone yn Singapore dalodd am y gost o adnewyddu'r capel ac mae ganddyn nhw brydles 50 mlynedd ar y capel.

Mae'r Gweinidog Yang wedi rhoi pregeth o'r enw "Pechod Sodom" lle roedd yn cyfeirio at "ffieidd-dra" perthynas hoyw.

Gwnaed cwyn i'r heddlu yn 2013 wedi i'r gweinidog ddweud: "Mae bod yn hoyw yn bechod ac mae'n llawer mwy rhemp, milwriaethus a threfnus na mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei gredu."

Galwodd ar yr eglwys i "wneud safiad".

Image caption Cafodd Capel Pisgah ei brynu gyda chymorth Eglwys Gymunedol Cornerstone yn Singapore yn 2015

Mae Mr Millar wedi "diolch i Dduw" am gefnogaeth Yang Tuck Yoong i brosiect crefyddol arall yng Nghymru, sef prynu Coleg Beibl Cymru.

Ymwelodd AC Gorllewin Clwyd ag Asia yn 2015 i "gyfarfod ag arweinwyr Eglwys Gymunedol Cornerstone", yn ôl adroddiad blynyddol sefydliad Evan Roberts.

Mr Miller yw Cadeirydd a Llywydd Sefydliad Evan Roberts ac un o dri ymddiriedolwr ynghyd â Russell George.

Dywedodd y Sefydliad nad ydyn nhw yn cefnogi barn y gweinidog.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad yw'r blaid yn caniatáu homoffobia na gwahaniaethu o unrhyw fath.

Bydd mwy am y stori ar Newyddion 9 ar S4C am 21:00 nos Fercher.

Image caption Mae hanes diweddar y capel i'w weld ar arwydd y tu allan

Straeon perthnasol