Darganfod corff mewn tŷ wedi tân yn Llandeilo Ferwallt
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y tân mewn tŷ oddi ar Heol Llandeilo Ferwallt
Mae'r gwasanaethau brys wedi darganfod corff mewn tŷ oedd ar dân yn Llandeilo Ferwallt, yn Sir Abertawe.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i dŷ oddi ar Heol Llandeilo Ferwallt tua 23:40 nos Fawrth.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn swyddogol eto.
Mae'r heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymchwilio i achos y tân.
Mae'r ardal o amgylch y tŷ yn dal ar gau ddydd Mercher wrth i'r ymchwiliad barhau, ac mae yna apêl i'r cyhoedd am wybodaeth.
Mae'r heddlu'n apêlio i'r cyhoedd am wybodaeth