Arestio bachgen 14 oed wedi marwolaeth Carson Price, 13

Carson Price Image copyright Llun teulu
Image caption Bu farw Carson Price, 13, nos Wener diwethaf

Mae'r heddlu wedi arestio bachgen 14 oed mewn cysylltiad â marwolaeth Carson Price yn Ystrad Mynach.

Cafodd y bachgen 14 oed ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Bu farw Carson Price, 13, nos Wener ar ôl iddo gael ei daro yn wael mewn parc yn Ystrad Mynach.

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Alun Davies: "Ers digwyddiadau trasig nos Wener mae ein tîm ymchwilio wedi bod yn dilyn sawl trywydd ynglŷn â marwolaeth Carson Price.

"O ganlyniad, y bore yma, fe weithredodd swyddogion arbenigol o Heddlu Gwent warant o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau, ym Mhontllanffraith, Y Coed Duon.

"Mae bachen 14 oed o'r ardal wedi cael ei arestio dan amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

"Ar hyn o bryd mae yn y ddalfa ac yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu yng Nghasnewydd."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol