Llofruddiaeth Clydach: Arestio dyn

Clydach Image copyright Adrian White
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yng Nghlydach am 20:30 nos Fercher

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi arestio dyn 47 oed o Glydach ar amheuaeth o lofruddio dyn yno ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yng Nghlydach am 20:30 nos Fercher, a bu farw dyn 48 oed.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau yn yr ardal ac mae'r heddlu yn holi'r dyn yng ngorsaf yr heddlu yn Abertawe.

Dywedodd y Ditectif Paul Giess; "Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned wrth i ni barhau â'r ymchwiliad, ac fe hoffwn dawelu ofnau'r gymuned drwy ddweud nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth ar hyn o bryd."

Pynciau Cysylltiedig