Adran dau: Casnewydd 3-1 Bury

Mickey Demetriou
Image caption Sgoriodd Mickey Demetriou ddwy gôl i Gasnewydd

Mae Casnewydd wedi adfywio eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ôl curo Bury.

Peniodd Mickey Demetriou gôl gyntaf Casnewydd ar ôl 5 munud, cyn i Nicky Maynard daro 'nôl i Bury 2 funud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Jamille Matt i Gasnewydd ar ôl 13 munud, ac fe ychwanegodd Demetriou ei ail gol ar ôl 75 munud.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd ddau bwynt yn brin o le yn y safleoedd ail gyfle, ac mae gan y tîm o Went un gêm mewn llaw.

Roedd hi'n fuddugoliaeth gofiadwy i Gasnewydd yn ebyn Bury, sydd wedi disgyn o'r ail i'r pedwerydd safle yn yr adran.

Straeon perthnasol