'Angen delio'n fwy cyson â cheisiadau bathodynnau glas'

Robin Thomas wrth ei gar
Image caption Dywed Robin Thomas bod y meini prawf yn "annheg" a'i fod ar ei golled am nad yw erioed wedi hawlio budd-daliadau

Mae dyn 80 oed o Faesteg yn dweud nad yw'n deall pam bod ei gais am yr hawl i barcio mewn llefydd ar gyfer yr anabl wedi ei wrthod, er ei fod wedi cael trawiad ar y galon a dwy strôc fach.

Dywed Robin Thomas, sy'n cael trafferth cerdded, bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gwrthod rhoi bathodyn glas iddo am nad yw'n hawlio budd-daliadau.

Mae'r elusen Age Cymru yn galw am fwy o gysondeb a thosturi ar draws Cymru wrth i wahanol gynghorau benderfynu pwy ddylai gael y bathodynnau.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi dilyn y canllawiau, a'u bod yn fodlon adolygu'r cais os yw Mr Thomas yn teimlo ei fod wedi cael ei asesu'n annheg.

Mae rhai pobl yn cael bathodyn glas yn awtomatig ar y sail eu bod yn derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) neu'r Lwfans Byw i'r Anabl (DLA).

Ond mae gan gynghorau hawl i'w roi hefyd i bobl sy'n cael trafferth cerdded.

'Tueddu i faglu'

Dywed Mr Thomas, oedd yn gweithio i Heddlu De Cymru am 35 mlynedd, ei fod wedi gwella'n dda wedi llawdriniaeth agored ar y galon a llawdriniaeth i arteri yn y gwddf, ond mae ei allu i symud yn wael.

"Rwy'n araf ar fy nhraed, mae fy nghoesau yn teimlo fel nad rhai fi y' nhw," meddai.

"Pan rwy'n cerdded, rwy'n tueddu i faglu. Mae fel petai 'mod i methu codi fy nhraed o'r ddaear."

Image copyright Getty Images

Pan gafodd ei asesu gan y cyngor am fathodyn, fe ofynnwyd os roedd yn hawlio budd-daliadau. Roedd yn rhaid iddo gerdded llai na 10 troedfedd ar draws swyddfa, ac mae'n teimlo nad oedd hynny'n ffordd deg o brofi ei allu i symud.

"Rwy'n teimlo braidd yn nerfus ynghylch cerdded yn bell - y pellaf rwy'n mynd rwy'n tueddu i faglu ar ymylon palmant neu oddi ar stepiau.

"Dydw i erioed wedi hawlio budd-daliadau. Dywedon nhw wrtha'i bod dim digon o bwyntiau gen i oherwydd dydw i ddim yn hawlio budd-daliadau. Mae'n teimlo'n annheg."

'Erioed wedi gofyn am ddim byd'

Dywedodd Mr Thomas y byddai'n defnyddio bathodyn glas er mwyn mynd i nofio ym mhwll Maesteg.

Ar hyn o bryd, mae gofyn i'w ferch ei ollwng a'i gasglu wrth y fynedfa oherwydd does nunlle agos i barcio.

"Rwy' jest eisiau nofio er lles fy iechyd. Rwy' wedi gweithio hyd fy oes, dydw i erioed wedi gofyn am ddim byd a pan y'ch chi'n teimlo eich bod yn haeddu rhywbeth bach fel bathodyn glas i'm helpu i gyrraedd y pwll mae'n siomedig pan y'ch chi'n cael eich gwrthod."

Image caption Mae methu â gadael y tŷ'n gwneud bywyd yn unig i rai sy'n methu â chael bathodyn glas, medd Valerie Billingham o Age Cymru

Dywedodd Valerie Billingham, rheolwr polisi ac ymgyrchoedd Age Cymru bod y drefn o gysylltu meini prawf â budd-daliadau yn aneffeithiol.

"Dydy llawer o bobl hŷn ddim yn hawlio budd-daliadau am nifer o resymau gan gynnwys balchder neu hyd yn oed am nad ydyn nhw'n sylweddoli eu bod yn gymwys i hawlio rhai budd-daliadau."

Mae yna anghysonderau, meddai, o ran y ffordd y mae gwahanol gynghorau'n gweithredu'r meini prawf, gan arwain at 'loteri cod post' ar draws Cymru.

Ychwanegodd bod cael bathodyn glas yn gwneud y gwahaniaeth i lawer o bobl rhwng bywyd "ynysig ac unig" gartref a bywyd llawn yn y gymuned.

'Fodlon adolygu'r cais'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi llunio "canllaw ymarfer gorau" ar y cyd ag arbenigwyr iechyd ar gyfer cynghorau.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae awdurdodau lleol yn cydnabod pwysigrwydd y cynllun i bobl â thrafferthion symud.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eu bod wedi dilyn y canllawiau wrth ddelio â chais Mr Thomas.

Ychwanegodd: "Mae bathodynnau glas yn cael eu rhoi i'r rheiny sydd methu cerdded neu sydd â thrafferthion cerdded sylweddol iawn.

"Os yw Mr Thomas yn teimlo ei fod wedi cael ei asesu'n annheg, byddwn yn fodlon iawn i adolygu ei gais."

Straeon perthnasol