Heddlu'n cysylltu â theulu dyn 74 oed wedi tân angheuol

Cerbyd heddlu ac injan dân wrth y tŷ
Image caption Cerbyd heddlu ac injan dân wrth y tŷ

Mae teulu dyn 74 oed oedd yn byw mewn tŷ yn Llandeilo Ferwallt a aeth ar dân wedi cael gwybod bod corff wedi ei ddarganfod yn yr eiddo.

Dyw'r corff heb ei adnabod yn ffurfiol eto ond mae Heddlu De Cymru wedi cysylltu â pherthnasau Francis Morgan.

Cafodd swyddogion tân eu galw i gyfeiriad oddi ar Heol Llandeilo Ferwallt tua 23:40 nos Fawrth.

Mae ymchwiliad yr heddlu i achos y tân yn parhau.

Straeon perthnasol