Aaron Ramsey allan am 'ychydig wythnosau' wedi anaf

Aaron Ramsey Image copyright Reuters
Image caption Bydd Aaron Ramsey yn gadael Arsenal wedi 11 mlynedd i ymuno â Juventus

Fe allai Aaron Ramsey fod wedi chwarae ei gêm olaf i Arsenal ar ôl cael anaf yn ystod gêm wyth olaf y tîm yn erbyn Napoli yng nghystadleuaeth Cynghrair Europa.

Bu'n rhaid i'r chwaraewr canol cae adael y cae wedi 33 o funudau gyda phroblem gyda chyhyrau cefn ei glun.

Bydd y Cymro yn ymuno â Juventus ar ddiwedd y tymor pan ddaw ei gytundeb i ben gydag Arsenal wedi 11 mlynedd.

Dywedodd rheolwr Arsenal, Unai Emery bod yr anaf i'r cyhyrau yn un "sydd fel arfer yn golygu ychydig wythnosau" oddi ar y cae i'r chwaraewr.

Bu'n rhaid i Ramsey dynnu'n ôl o garfan Cymru gydag anaf a dychwelyd i'w glwb am driniaeth fis diwethaf cyn y fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia yng ngêm ragbrofol gyntaf tîm Ryan Giggs ar gyfer pencampwriaeth Euro 2020.

Bydd Cymru yn herio Croatia ar 8 Mehefin, ac yna Hwngari ar 11 Mehefin.

Pum gêm sydd gan Arsenal yn weddill yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol