Morgannwg yn colli yn Hampshire
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Graham Wagg 68 rhediad
Mae Hampshire wedi trechu Morgannwg mewn gem undydd yn Southampton.
Sgoriodd Morgannwg 292 am 9 yn eu 50 pelawd.
Y prif sgorwyr oedd David Lloyd a Graham Wagg gyda chyfraniadau o 68 yr un.
Cyrhaeddodd Hampshire y targed ar ôl 41.5 pelawd, gyda Tom Alsop yn sgorio 130 heb fod allan mewn cyfanswm o 293 am 3.
Roedd na gyfraniad pwysig gan James Vince hefyd wrth iddo sgorio 95 cyn iddo gaei ddisodli gan fowlio Wagg.