Llofruddiaeth Clydach: Dyn yn ymddangos yn y llys

Frederic Pallade Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Mae teulu Frederic Pallade yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig

Mae dyn 47 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn ardal Clydach, Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Gellionnen nos Fercher, ble cafwyd hyd i gorff Frederic Pallade, dyn 48 oed o Ffrainc.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi byw yn Abertawe am rai blynyddoedd.

Fe wnaeth Andrew Tudor Jones, o Glydach, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Bydd nawr yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 23 Ebrill.

Mae teulu Mr Pallade wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Giess: "Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i ni barhau â'r ymchwiliad hwn, a hoffwn eu sicrhau nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol