Casnewydd: Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd

Heddlu

Mae cerddwr wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan gerbyd yng Nghasnewydd.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i wrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent ger Parc Beechwood tua 23:50 ddydd Sadwrn.

Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond bu farw o'i anafiadau.

Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei deulu.

Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd, meddai'r heddlu.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig