Adran Dau: Macclesfield 0-0 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd y gemau ail gyfle yn parhau er iddyn nhw gael gêm gyfartal ddi-sgôr yn Macclesfield brynhawn Llun.

Yn dilyn oedi o 10 munud cyn dechrau'r gêm, roedd hi'n hanner cyntaf digynnwrf, gyda dim goliau cyn yr egwyl.

Casnewydd oedd y tîm gorau yn yr ail hanner, ond doedd Ben Kennedy, Robbie Willmott na Scot Bennett yn gallu canfod y rhwyd gyda'u cyfleoedd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Alltudion yn aros yn yr 11eg safle yn Adran Dau, dau bwynt o safleoedd y gemau ail gyfle gyda gêm ychwanegol o'i gymharu â'r timau o'u blaen.

Straeon perthnasol