Y Bencampwriaeth: Ipswich 0-1 Abertawe

Dan James Image copyright Getty Images
Image caption Roedd yr asgellwr Daniel James yn un o'r sêr i Abertawe unwaith eto

Fe wnaeth Abertawe sicrhau Pasg hapus i'w cefnogwyr wrth iddyn nhw drechu Ipswich o 1-0 yn Portman Road brynhawn Llun.

Yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gyda Daniel James a Wayne Routledge yn cael cyfleoedd i'r Elyrch.

Fe aethon nhw ar y blaen ar ôl 57 munud, wrth i ergyd James o 20 llath daro'r postyn a dod yn ôl i lwybr Routledge a lwyddodd i rwydo.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.

Straeon perthnasol