Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl cael ei daro gan gar

Jordan Routley Image copyright Heddlu Gwent/Google
Image caption Bu farw Jordan Routley wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn ifanc fu farw ar ôl iddo gael ei daro gan gerbyd yng Nghasnewydd dros y penwythnos.

Bu farw Jordan Routley, 21 oed ac yn lleol i'r ardal, yn dilyn y gwrthdrawiad ar Ffordd Cas-gwent ger Parc Beechwood am tua 23:50 ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent y dilyn y digwyddiad, ond bu farw o'i anafiadau.

Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhywun allai helpu eu hymchwiliad i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol