Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad anafodd ferch 11 oed

Ffordd Harrow, Casnewydd Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Harrow tua 20:45 nos Fercher

Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 29 oed o yrru'n ddiofal a methu â stopio ar ôl damwain wedi i ferch 11 oed gael ei hanafu yng Nghasnewydd.

Bu'n rhaid i'r ferch gael triniaeth at fân anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi'r digwyddiad yn Ffordd Harrow tua 20:45 nos Fercher, oedd yn cynnwys Volkswagen Golf arian a chriw o gerddwyr.

Mae disgwyl i'r dyn ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd ar 14 Mai.

Mae'r heddlu'n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dash cam all fod yn berthnasol i'w hymchwiliad.