Cyhuddo dyn o lofruddiaeth dynes ifanc yn Abertawe

Sammy-Lee Lodwig Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Mae teulu Sammy-Lee Lodwig dal i dderbyn cefnogaeth gan yr heddlu

Mae dyn 49 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi marwolaeth dynes 22 oed yn Abertawe ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol yn ardal Carlton Terrace ar 23 Ebrill.

Bydd Jason Shaun Farrell, o Abertawe, yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.

Cafodd Mr Farrell ei arestio brynhawn Mawrth ac mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae teulu Ms Lodwig wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn dal i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae' heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol