Claf wedi'i anafu ar ôl tân mewn ysbyty yng Nghaerdydd

Ysbyty Athrofaol Cymru Image copyright Mick Lobb/Geograph
Image caption Mae swyddogion tân yn ymchwilio i achos y tân yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae claf wedi cael ei anafu yn dilyn tân ar ward yn ysbyty mwyaf Cymru.

Mae'r dyn yn cael ei drin yn dilyn y tân bychan yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Iau.

Cafodd gweddill y cleifion o'r ward llawdriniaeth cardiothoracic a ward arall gerllaw eu symud o'r adeilad heb eu hanafu.

Mae swyddogion tân nawr yn ymchwilio i achos y tân yn ward De C5.

Mae cleifion o ward Gogledd C5 gerllaw wedi gallu dychwelyd i'r ward, tra bod cleifion De C5 yn parhau mewn rhan arall o'r ysbyty.