Morgannwg yn brwydro 'nôl yng Nghasnewydd

Nick Selman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cyrhaeddodd Nick Selman 148 heb fod allan

Fe wnaeth Nick Selman a Marnus Labuschagne sgorio canred yr un wrth i Forgannwg daro 'nôl yn erbyn Sir Gaerloyw ddydd Iau.

Ar ôl cael eu gorfodi i fatio eto wedi batiad cyntaf siomedig, cyrhaeddodd Morgannwg 359 am 1 yng Nghasnewydd.

Sgoriodd Selman ei sgôr orau yn ei yrfa gan gyrraedd 148 heb fod allan, wrth i Labuschagne gyrraedd ei 100 o 112 pêl, gan orffen y diwrnod ar 128 heb fod allan.

Mae Morgannwg 146 o flaen Sir Gaerloyw yn mynd i mewn i'r diwrnod olaf o chwarae yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig