Cofio'r 'dynamo o ddynes', Mary Silyn

Ddydd Sadwrn, mae cofeb i Mary Silyn a'i gŵr, R Silyn Roberts, yn cael ei ddadorchuddio ar eu cartref yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog.

Mae'r pâr yn cael eu coffáu am eu hymdrech i ddarparu addysg i chwarelwyr yr ardal - haen o gymdeithas na fyddai, fel arfer, yn derbyn llawer o addysg ffurfiol.

Roedd R Silyn Roberts yn weinidog, yn brifardd coronog, ac yn adnabyddus am fod yn sosialydd pypyr (bu'n gyfaill â Lenin ar un adeg).

Ond pwy oedd ei wraig, Mary, sydd wedi ei disgrifio yn 'dynamo o ddynes'?

Image copyright Llun teulu
  • Ganwyd Mary Parry yn Llundain yn 1877, yn un o Gymry'r brifddinas. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth a derbyniodd ysgoloriaeth i ddarlithio mewn prifysgol yn Nenmarc yn 1904, a dychwelyd yno eto yn 1905.
  • Wedi priodi, rhoddodd Mary y gorau i'w swydd fel darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Roedd hi'n credu'n gryf bod gan bobl gyffredin hawl i addysg.
  • Pan oedd Mary a'i gŵr yn byw yn Nhanygrisiau, gan fod Silyn yn weinidog yno, penderfynodd y ddau fod angen gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i weithwyr yr ardal.
Image copyright Angharad Tomos
Image caption Mary ac R Silyn Roberts
  • Sefydlodd hi a Silyn gangen gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.
  • Bu farw ei gŵr yn 1930. Roedd wedi cael brathiad gan fosgito wrth deithio adref o Rwsia, a bu farw bythefnos yn ddiweddarach o'r dwymyn.
  • Parhaodd Mary â'r gwaith o sicrhau addysg i'r gymdeithas, tan 1960.
  • Nid yn unig roedd hi'n trefnu'r darlithwyr, roedd hi hefyd yn trefnu'r manion, fel sicrhau bod rhywun ar gael i yrru'r darlithydd draw i'r ysgoldy, ac yna yn ôl adref - rhywbeth anodd yn ystod y rhyfel, gyda phrinder petrol.
  • Yn 1926, gorymdeithiodd 10,000 o ferched o ledled Prydain i Hyde Park, Llundain, fel rhan o'r Orymdaith Heddwch. Yn eu plith oedd Mary, a oedd wedi penderfynu casglu merched at ei gilydd a dechrau ar eu taith ym Mhenygroes, Gwynedd. Cri'r llu oedd 'Hedd nid Cledd.'
Image copyright Casgliad y Werin
Image caption 'Hedd nid Cledd' ar yr orymdaith i Lundain yn 1926
  • Angharad Tomos, Iona Price a Luned Meredith, sydd wedi trefnu fod cofeb yn cael ei chodi i Mary Silyn.
  • Mae'r lechen yn cael ei hychwanegu at gasgliad o gofebau sydd eisoes yn Nhanygrisiau. Mae gan dai eraill lechi i nodi eu bod unwaith yn gartrefi i'r arbenigwr ar ganu gwerin, Meredydd Evans a'r bardd, Gwyn Thomas.
  • Dywedod Meredydd Evans am Mary ac R Silyn Roberts: "Gadawodd [Silyn] ei ôl ar ardal Stiniog yn gyffredinol. Y canlyniad oedd i mi gael fy magu yn sŵn ei enw ac ansawdd ei gyfraniad. Roedd yn Sosialydd hollol agored ei broffes. Ym Mangor, ces gyfle i adnabod ei briod, Mary Silyn, a fu'n gynnes ei chroeso... am fy mod yn un o 'hogia Tanygrisia'. Rhyfedd fel y gall darn o dir glymu pobl ynghyd."

Angharad Tomos yn trafod hanes yr ymgyrchydd Mary Silyn Roberts

Pynciau Cysylltiedig