Arestio dyn wedi damwain angheuol yng Nghaerdydd

A4232 Image copyright Nick Langley
Image caption Roedd yna dagfeydd sylweddol yn dilyn y gwrthdrawiad

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar un o brif hewlydd Caerdydd.

Bu farw un person yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd ddydd Iau.

Mae'r dyn gafodd ei arestio yn cael ei holi yng ngorsaf Bae Caerdydd.

Bu rhan o'r A4232 ar gau am chwe awr o tua 16:30 gan achosi tagfeydd ar un o adegau prysuraf y dydd.

Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad ac am unrhyw dystiolaeth dashcam.

Straeon perthnasol