Cymru: Gwlad Game of Thrones?

Game of Thrones: ffantasi pur neu cipolwg craff ar fywyd canoloesol yng Nghymru?

Cyfnod Rhyfel y Rhosynnau sy' wedi sbarduno awdur cyfres wreiddiol llyfrau Game of Thrones, George R. R. Martin. Ond nid digwyddiadau hanesyddol oedd ei unig ysbrydoliaeth ac mae dylanwad chwedlau ac ieithoedd y gorffennol i'w gweld yn glir yn ei waith hefyd.

Gyda'r gyfres epig yn gorffen heno, bu Cymru Fyw'n siarad â Dr Euryn Rhys Roberts, darlithydd mewn hanes canoloesol a hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Image copyright Sky Atlantic
Image caption Kit Harington fel Jon Snow

Trais a noethni

Mae'r gyfres yn enwog am ei olygfeydd graffig o drais a noethni ond pa mor debyg i fywyd canoloesol yw'r darlun yma?

Yn ôl Dr Roberts: "Mae hanes yr oesoedd canol yn waedlyd. Fel yn Game of Thrones, mae 'na wahanol linachau (lineages) yng Nghymru'r oesoedd canol. Mae'r teuluoedd brenhinol neu uchelwrol i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, fel maen nhw'n cystadlu am yr orsedd haearn yn Game of Thrones."

Roedd cyfraith Cymru yn y canol oesoedd yn caniatàu i feibion wedi eu geni tu allan i briodas i etifeddu, gan achosi trais ac anrhefn, fel y mae Dr Roberts yn sôn: "Fel y gyfres, mae gyda chi'r cystadlu 'ma ymhlith teuluoedd a rhwng teuluoedd.

"Felly roedd gan nifer efallai ar yr un pryd hawl i fod yn arglwydd ar Wynedd neu ar Bowys, er enghraifft. Ac roedd gwahanol ffyrdd o gael gwared â'ch cystadleuwyr. Yn ystod y deuddegfed ganrif yn arbennig mae cryn sôn am ddallu ac ysbaddu, sef torri ceilliau.

"Roedd hynny'n ffordd o atal rhywun rhag bod yn fygythiad ac o genhedlu plant a fyddai yn eu tro hefyd yn rhan o'r sgarmes am awdurdod."

Image copyright Helen Sloan/HBO
Image caption Y cymeriad Arya Stark yn Game of Thrones

Troeon yn y plot

Un o'r ffactorau pennaf sy' wedi cyffroi gwylwyr Game of Thrones yw'r troeon yn y plot, gyda'r ffans mwyaf yn ysu i weld rhan nesa'r stori. Mae pob cyfres wedi syfrdanu'r gynulleidfa, yn aml gyda phrif gymeriadau yn cael eu lladd ac yn diflannu o'r gyfres. Ydy'r driniaeth yma'n adlewyrchiad teg o Gymru'r cyfnod?

Ydy, yn ôl Dr Roberts: "Yng Nghymru'r oesoedd canol mae gennych chi'r holl droadau yma lle mae unigolion sy'n flaenllaw ac yn bwerus dros ben yn cael eu lladd yn ddisymwth. Mae rhywun yn meddwl yn arbennig am Lywelyn ein Llyw Olaf, ond mae eraill hefyd fel Gruffudd ap Llywelyn - yr unig frenin Cymreig i reoli'r wlad yn ei chyfanrwydd - a laddwyd gan ei wŷr ei hun yng nghanol yr unfed ganrif ar ddeg.

"Mae 'na fwy o antur a thensiwn yng nghefndir tywysogion Cymru yn y 12fed ganrif nag yn Game of Thrones. Mae 'na gymeriadau fel Gruffudd ap Cynan yn y 12fed ganrif fyddai'n hawdd yn ffitio mewn i'r gyfres.

"Roedd ei daid o'n frenin ar Wynedd ond cafodd ei fagu'n alltud yn Iwerddon ac roedd ei fam o dras Lychlynnaidd a Gwyddelig. Mae ei fam o'n sôn am hanes ei deulu a'i hawl nhw dros Wynedd mewn cofiant o'r oesoedd canol.

Brwydro a brad

"Wedi tyfu'n ddyn mae Gruffudd yn croesi'r môr o Iwerddon hefo cefnogaeth o Iwerddon a'r byd Llychlynnaidd ac wedyn am tua 20 mlynedd mae o wrthi'n ceisio sefydlu ei awdurdod dros Wynedd.

"Yn y diwedd mae o'n llwyddo wedi sawl antur ar fôr a thir- mi fyddai hanes ei fywyd yn sgript ffilm yn ei hun.

"Mae Gruffudd ap Cynan yn marw yn 1137 yn 82 oed. Mae o'n byw yn hen iawn ac yn cael tri o feibion trwy ei wraig ac hefyd meibion tu allan i briodas.

"Fe laddwyd ei fab hynaf, Cadwallon, gan ei gefnder ym 1132. Dial oedd hynny gan fod Cadwallon yn gynharach, yn 1125, wedi lladd tri o'i ewythrod.

"Pan mae Gruffudd ap Cynan yn marw, dim ond dau fab o'i briodas sy'n weddill - Owain Gwynedd a Cadwaladr. Mae'r ddau yn mynd ati wedyn i ymladd â'i gilydd dros Wynedd am agos i 20 mlynedd."

"Fel Daenerys, mae Gruffudd ap Cynan yn dod nôl dros y môr i bwysleisio'i hawl dros dir."

Image copyright HELEN SLOAN/HBO
Image caption 'Tebyg i Gruffudd ap Cynan': Daenerys Targaryen

Y Briodas Goch

Mae lladdfeydd enwog fel y Briodas Goch yn Game of Thrones yn debyg i ddigwyddiadau hanesyddol yng Nghymru, fel y Nadolig Goch pan wnaeth William de Braose ladd rhai o dywysogion Gwent yn ystod Nadolig 1175.

Dywedodd Dr Roberts: "Cafodd Seisyll ap Dyfnwal, un o dywysogion Cymreig Gwent, a'i ddynion eu hudo dan faner cyfeillgarwch a'u lladd gan y Normaniaid, a hynny yn ôl traddodiad dros gyfnod y Nadolig. Wedi'r lladdfa, fe aeth y Normaniaid yn syth i lys Seisyll a charcharu ei wraig, Gwladus, a lladd ei fab a'i etifedd, Cadwaladr."

Dylanwad y gyfres

Mae Dr Roberts yn canmol effaith y gyfres ar ddisgyblion hanes: "Mae'r gyfres wedi bachu dychymyg pobl sy'n newydd i'r pwnc.

"Mae o'n cael pobl i siarad am yr oesoedd canol, yn meddwl am ddarn o hanes Cymru sy' fel arfer ddim yn sgwrs dros baned."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig