O Billericay i'r Bae: Cadw'r iaith yn fyw... yn Essex

Gwenno ac Anna Image copyright Gwenno Pope

Billericay yn Essex. Nid lle y byddech chi fel arfer yn ei gysylltu gyda'r Gymraeg ond mae un ferch fach o'r dref, a roddwyd ar y map gan gyfres deledu Gavin and Stacey, yn paratoi i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Mae Anna yn wyth oed ac yn un o 130 o aelodau'r Urdd sy'n byw y tu allan i Gymru.

I'w mam, Gwenno Pope, sydd o Dregarth yn wreiddiol, mae cadw'r Gymraeg yn fyw ar wefusau ei merch yn Essex yn golygu ymdrech - ond yn ymdrech mae hi'n benderfynol o'i gwneud er mwyn pasio'r iaith ymlaen iddi.

"Ar y funud, dim ond gen i mae hi'n clywed y Gymraeg," meddai Gwenno a symudodd i Loegr i ddilyn gyrfa mewn ffasiwn.

"Pan mae'n codi yn y bore 'neith hi siarad Cymraeg. Wedyn pan mae'n dod adre o'r ysgol, achos mai Saesneg mae hi wedi bod yn ei siarad drwy'r dydd mae hi'n siarad Saesneg - dwi'n trio siarad efo hi yn Gymraeg ond mae'n ateb fi yn Saesneg felly mae'r sgwrs yn hanner-a-hanner.

"Wedyn yn y nos pan mae'n amser gwely mae'n dechrau siarad Cymraeg eto.

"Mae hi'n dallt lot, ond pan mae ar y ffôn efo pobl weithiau maen nhw'n siarad rhy gyflym neu dydi hi ddim yn deall yn iawn so mae'n mynd yn frustrated."

Fe gafodd Anna ei chofrestru fel dysgwr i gystadlu yn yr adrodd yn yr Urdd am nad ydi hi'n cael unrhyw Gymraeg yn yr ysgol ac yn ansicr o ran treiglo a deall popeth, meddai Gwenno.

"O'n i ddim yn meddwl y bysai'n deg iddi gystadlu yn erbyn pobl iaith gyntaf," meddai.

Image copyright Google
Image caption Mae rownd ragbrofol i gystadleuwyr yr Urdd sy'n byw tu allan i Gymru yn cael ei chynnal yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain gyda rhai yn cystadlu dros Skype

Fis Mawrth felly ymunodd Anna a thua 100 o blant eraill oedd yn cystadlu yn unig eisteddfod ranbarthol yr Urdd y tu allan i Gymru sy'n cael ei chynnal yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain.

Wedi'r rownd ragbrofol honno mae Anna yn cystadlu yn yr ŵyl yng Nghaerdydd ar 27 Fai.

Y Gymraeg 'wedi stopio'

Roedd Gwenno a'i gŵr, Chris, wedi byw mewn fflat yn Llundain am 10 mlynedd cyn symud i Billericay er mwyn cael gardd a mwy o le i fagu Anna.

Roedd y ddau yn teithio'r byd gyda'u gwaith - roedd Gwenno yn brynwr dillad dynion i gwmnïau fel Marks and Spencer, Austin Reed a Charles Tyrwhitt.

Ond roedd symud o Lundain yn golygu colli'r nani Gymraeg oedd ganddyn nhw.

"Pan nes i fynd nôl i'r gwaith, roeddan ni'n lwcus a wnes i gael nani Gymraeg oedd yn siarad Cymraeg efo Anna bob dydd," meddai Gwenno.

"Ond pan 'naethon ni symud i Essex oeddan ni methu cael nani Gymraeg ac ro'n i'n gweithio'n llawn-amser a ddim yn cael llawer o amser efo Anna yn y bore na'r nos ac fe wnaeth ei Chymraeg hi stopio.

"Ond pan wnes i stopio gweithio roedd hi wedi dod i siarad Cymraeg eto," meddai Gwenno sydd bellach yn ailhyfforddi i fod yn gymhorthydd dosbarth i blant ag anghenion arbennig ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn magu Anna.

Mae hi'n dal ati i geisio meithrin Cymraeg Anna drwy ddarllen llyfrau Cymraeg iddi, defnyddio apiau Cymraeg a gwylio rhaglenni plant S4C.

Ond wrth iddi dyfu mae'n mynd yn anoddach gan fod yr adnoddau sy'n addas i'w gallu iaith yn mynd yn rhy blentynaidd iddi o ran oed, meddai Gwenno.

Image copyright Gwenno Pope
Image caption Gwenno ac Anna ger Rhaeadr Aber ar ymweliad â'i theulu yng Nghymru

"Roedd hi'n licio pethau fel Deian a Loli a rhaglenni ar S4C, ond os ydy hi'n gwatsiad pethau sy'n addas i'w hoed hi, dydi hi methu dal i fyny achos maen nhw'n siarad yn rhy gyflym ond efo pethau eraill maen nhw'n rhy fabïedd, so mae'n anodd.

"Dwi'n gorfod trïo. Mae mor hawdd i ateb yn Saesneg, a hefyd am nad ydi fy ngŵr i'n siarad Cymraeg, pan mae pawb yn y tŷ, dydi o ddim yn deall be' sy'n mynd ymlaen os dwi'n siarad Cymraeg - ond mae o'n gefnogol iawn."

Dydi Gwenno ddim yn siŵr sut mae safon iaith Anna yn cymharu gyda phlant eraill gan nad oes neb yn yr un sefyllfa â hi yn byw yn agos.

Yr unig blant y gall gymharu â nhw yw plant ei brawd a'i chwaer sy'n rhugl ac yn byw yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Ond o bryd i'w gilydd mae'n gweld bod ei dyfalbarhad yn dwyn ffrwyth.

"Dros y Nadolig ro'n i wedi ei bwcio hi mewn i ar gwrs ukelele ym Mangor ac wedi gofyn gai aros efo hi achos o'n i ddim yn meddwl fyse hi'n gallu deall a phigo pethau i fyny.

"Ond roedd hi 'di gwneud ffrindiau ac yn siarad efo'r merched drws nesa oedd yn mynd i Ysgol y Garnedd ac o'n i'n meddwl 'A, so mae hi yn gallu siarad yn iawn!

"Dwi'n cael sioc bob tro dwi'n mynd fyny i weld teulu, neu mae Mam a Dad yn dod lawr, 'neith hi siarad Cymraeg am dri neu bedwar diwrnod yn soled - Cymraeg, Cymraeg, Cymraeg. Wedyn yn syth rydan ni adre, mai'n newid.

"Dwi'n trio dweud wrthi nad oes 'na ddim lot o bobl yn siarad Cymraeg. Does na ddim lot o bobl yn siarad dwy iaith. Yn amlwg yn Llundain roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yn siarad tair iaith ond yn fan hyn, does 'na ddim lot yn siarad dwy iaith adref - so dwi'n trïo egluro iddi bod o'n sbesial bod ti'n gallu siarad dwy iaith."

Mae gan yr Urdd tua 100 o aelodau'n cystadlu o'r tu allan i Gymru - gydag Ysgol Gymraeg Llundain yn weithgar iawn ac aelwydydd yn Llundain, Manceinion a Durham hefyd. Mae cystadlu hefyd o Batagonia ac erbyn hyn Awstralia, ac yn 2018 cafodd cystadleuydd o Gorea lwyddiant gyda'r adrodd.

"Dwi'n meddwl geith hi sioc i weld pa mor fawr ydi'r eisteddfod a'r llwyfan. Ond mi fydd yn brofiad da iddi a chael bod yna a gweld pawb arall yn cystadlu."

Hefyd o ddiddordeb: